Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sioeau'n 'brawf' o'r angen i ddysgu hanes Cymru i blant
- Awdur, Iola Wyn
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Mae cwmni gafodd ei sefydlu i addysgu plant cynradd am hanes Cymru yn mynd o nerth i nerth wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn bump oed.
Ym mis Medi 2013 cafodd sioe newydd ei pherfformio am y tro cyntaf wrth i'r Arglwydd Rhys - Arwr y Deheubarth - ddiddanu disgyblion Ysgol Bro Brynach yn Sir G芒r.
Dyma oedd dechrau'r daith i Eleri Twynog Davies, wrth iddi sefydlu Mewn Cymeriad - sioeau un dyn neu ddynes sy'n cyflwyno hanes Cymru i blant oed cynradd.
Mae'r cwmni wedi datblygu'n sylweddol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, gyda 20 o sioeau bellach ym mhortffolio'r cwmni a thua chant o berfformiadau'n cael eu cynnal pob mis.
Mae Ms Davies yn amcangyfrif bod tua 100,000 o blant wedi gweld eu sioeau bellach.
Yn 么l Ms Davies, mae'r ymateb wedi bod yn rhagorol, ac yn profi bod gwir angen y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion cynradd.
Dywedodd ei bod hi wedi gadaelyr ysgol ar 么l astudio Hanes Safon Uwch heb lawer o wybodaeth am hanes Cymru.
Roedd hi'n teimlo "bod y bwlch yn dal yna" ar y pryd, ac iddi sefydlu Mewn Cymeriad oherwydd hynny.
Mae'n teimlo bellach iddi brofi'r bwlch hynny oherwydd "y galw sydd wedi bod am y sioeau".
Yn 么l un o'r actorion sy'n llwyfannu'r sioeau, Anwen Carlisle, mae'n "brofiad hollol wahanol i fod ar lwyfan".
"Chi yng nghanol y plant, chi'n gofyn i'r plant ymateb, heb s么n am y cymryd rhan," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi'n teithio i bob cwr o Gymru, gan ymweld 芒 llefydd anghysbell, lle nad oes theatr.
"Mae'r plant yma'n medru cael y profiad theatr, fel mae plant mewn trefi a dinasoedd yn cael yn amlach o bosib," meddai Ms Carlisle.
'Dehongliad unigryw a byw'
Yn ogystal 芒'r Ail Ryfel Byd a'r Arglwydd Rhys, gall plant ddysgu am Buddug, Brenhines y Brwydro, Barti Ddu, Cnaf Cyfrwys y Caribi, Hedd Wyn, Harri Tudur a mwy.
"Mae'r sioeau yn cynnig dehongliad unigryw a byw o'n hanes ynghyd 芒'r cyfle i ryngweithio" meddai Ms Davies.
"Mae'r cyfuniad o ffaith a chwarae, dychymyg a rhesymu yn hanfodol."
Yn 2015, comisiynwyd cwricwlwm newydd yn dilyn Adroddiad Donaldson i ddyfodol addysg yng Nghymru.
Mae sioeau Mewn Cymeriad yn cyd-fynd ag amcanion craidd y cwricwlwm hwnnw, gyda'r elfen o ddysgu trwy brofiad yn rhan ganolog ohonynt.