Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am sicrhau dyfodol myfyrwyr wedi Brexit
Mae undeb sy'n cynrychioli myfyrwyr yng Nghymru wedi galw ar brif weinidog y DU i osgoi Brexit heb gytundeb.
Mewn llythyr agored at Theresa May mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru wedi galw arni i sicrhau Brexit "sy'n osgoi yr effeithiau gwaethaf".
Mae UCM Cymru hefyd wedi cefnogi cael refferendwm ar delerau terfynol Brexit.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai dod i gytundeb gyda'r UE yw'r "brif flaenoriaeth".
Parhad Erasmus+?
Ddydd Iau fe gyhoeddodd swyddogion yn San Steffan eu cynlluniau diweddaraf petai yna Brexit heb gytundeb.
Eisoes mae Mrs May wedi rhoi ei chefnogaeth i barhau 芒 chynlluniau cyfnewid Erasmus+ tan o leiaf 2020 os yw trafodaethau Brexit yn parhau fel y disgwyl.
Os nad yw'r DU a'r UE yn dod i gytundeb mae Llywodraeth y DU wedi addo cyllido ymgeiswyr o'r DU sydd wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus cyn 29 Mawrth 2019.
Mae UCM Cymru, sy'n cynrychioli 350,000 o fyfyrwyr, am i'r llywodraeth sicrhau bod gan y DU fynediad i gynllun Erasmus+ ac unrhyw gynllun arall wedi 2020.
Tra'n poeni am fethiant Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb, mae undeb y myfyrwyr hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ar frys os yw'n bosib i fyfyrwyr barhau i fod yn rhan o gynlluniau Erasmus+ a chynlluniau tebyg.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Cymru fod yn rhan o gynlluniau o'r fath.
Dywedodd Gwyneth Sweatman, Llywydd UCM Cymru: "Mae cynlluniau fel Erasmus+ yn rhoi cyfleoedd sy'n gallu newid bywydau myfyrwyr wrth iddynt gael y cyfle i weithio ac astudio dramor.
"Wrth i wleidyddion oedi mae'n mynediad i gynlluniau o'r fath yn y fantol.
"Rwy'n galw ar wleidyddion i sicrhau ein bod yn osgoi effeithiau gwaethaf Brexit."
Yn ystod yr haf fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, y bydd myfyrwyr o'r UE sy'n dechrau ar eu cwrs ym mhrifysgolion Cymru yn 2019 yn talu yr un ffioedd 芒 myfyrwyr eraill ac y byddant yn parhau i gael yr un gefnogaeth.
Wrth i'r ansicrwydd barhau mae UCM Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i siarad 芒 gweinidogion San Steffan er mwyn sicrhau dyfodol myfyrwyr wedi 2020.