Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Yr actor Jonathan Nefydd
Yr actor Jonathan Nefydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Sera Cracroft yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cofio rhedeg mas i whare p锚l-droed yn yr ysgol gynradd, St Paul's Bangor. Y b锚l yn taro'r ffens gwifren, ac wrth i mi blygu lawr i n么l y b锚l, dyma fy llygad dde yn cael ei dal yn y gwifren metal.
O'n i'n hollol styc, methu symud, nes bod athro yn dadgysylltu fi oddi wrth y ffens. Wedyn cael fy rysho i Ysbyty C&A i gal pigiad Tetanus yn fy nhin!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Olivia Newton John. Weles i Grease dros hanner dwsin o weithie yn y City Cinema ym Mangor.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Un noson, yn ystod taith genedlaethol o Under Milk Wood, dyma fi'n tynnu a rhwygo hamstring yng nghefn fy nghoes. Roedd e'n ofnadw' o boenus.
Bu rhaid i mi berfformio gweddill y noson a'r wythnos ganlynol o gadair ar ochr y llwyfan.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Dwi'n cr茂o yn ddyddiol wrth weld shambls Brexit yn agos谩u.
O Archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gwin coch a siocled, yr un pryd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Llanddwyn; ar ddiwrnod braf does unman yn y byd cystal.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson o dan y s锚r yn Pioneertown, Califfornia.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Swnllyd. Sensitif. Stwbwrn.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Sideways.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Bono a The Edge. Dwi wedi bod yn ffan enfawr o U2 ers degawde a bydde'n gr锚t siarad 'da nhw am y dyddie cynnar.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fy enw cynta' yw Richard, felly mewn gwironedd dwi'n Dickie.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Byta mynydd o donyts.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Mae fy hoff g芒n yn newid yn wythnosol os nad yn ddyddiol. Heddiw: Mr Tillman gan Father John Misty, athrylith cerddorol.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Wystrys ffres Languedoc efo gwydriad o Champagne. Hake wedi rhostio gyda kale, madarch ac artichoke Jerwsalem, a photel o Riesling wrth gwrs. Pwdin taffi efo llwyth o saws, hufen i芒 a hufen. Basically bwydlen Fiskebar Copenhagen.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Taylor Goldsmith, o'r band Dawes. Bydde meddu ar y fath dalent cerddorol a bod yn aelod o fand roc mor c诺l yn gymaint o sbort.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Ll欧r Evans