Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lansio undeb myfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) wedi cael ei lansio'n swyddogol ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener.
Mewn digwyddiad arbennig ym Mhabell Prifysgol Caerdydd cafodd y corff newydd ei lansio gan fyfyrwyr y brifysgol.
Daeth y cyhoeddiad y byddai undeb newydd yn cael ei sefydlu ym mis Mawrth 2017, ar 么l i 87% o Senedd y Myfyrwyr bleidleisio o'i blaid.
Dywedodd Llywydd UMCC, Osian Morgan fod y lansiad yn "gyfle euraid i ni hyrwyddo'r datblygiadau cyffrous i'r Gymraeg o fewn y brifysgol ar lawr gwlad".
'Cyfle i ddathlu'
Roedd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg yn bresennol yn y lansiad fel siaradwraig gwadd, ynghyd a nifer o fyfyrwyr y brifysgol.
Bydd yr undeb newydd yn gyfrifol am gynrychioli siaradwyr Cymraeg y brifysgol yn ogystal 芒 cheisio "sicrhau fod myfyrwyr Cymraeg y brifysgol yn derbyn eu hawliau yn ddiofyn ac yn ddieithriad".
Yn 么l datganiad bydd UMCC hefyd yn ceisio sefydlu cymuned "gref, fywiog ac amrywiol o siaradwyr Cymraeg yn y brifysgol", sy'n galluogi unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn y Gymraeg a'i diwylliant "deimlo fel rhan o'r gymuned honno".
Dywedodd Mr Morgan, oedd yn arwain y lansiad eu bod yn "hynod o gyffrous" i lansio UMCC yn ystod yr Eisteddfod.
"Gyda'r brifwyl yn ymweld 芒'r brifddinas eleni, mae'n addas iawn mai yn y brifwyl hon y byddwn yn dathlu'r datblygiad cadarnhaol hwn i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd," meddai.
Ychwanegodd nad hyrwyddo'r iaith yn unig fydd UMCC ond eu bod nhw'n bwriadu "gweithredu dros y Gymraeg" hefyd, gan nodi'r "cam pwysig hwn tuag at gydraddoldeb ieithyddol ym mhrifysgol prifddinas Cymru".
Mae UMCC wedi dweud yn y gorffennol y byddan nhw'n gweithio ochr yn ochr 芒 chymdeithasau Cymraeg eraill sydd eisoes yn bodoli o fewn y brifysgol, fel y GymGym.