Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyn-reolwr 91热爆 Cymru, Gareth Price wedi marw yn 78 oed
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 91热爆 Cymru
Bu farw cyn-reolwr 91热爆 Cymru, Gareth Price, yn 78 oed.
Roedd yn gynhyrchydd rhaglenni, pennaeth adrannau a rheolwr ar y gorfforaeth yn ystod cyfnod o dwf aruthrol ym myd darlledu.
Fe ymunodd 芒'r 91热爆 yn 1964 ac roedd yn bennaeth ar y gwasanaethau Cymreig o 1986 hyd at 1990.
Mewn datganiad yn rhoi teyrnged iddo, dywedodd Cyfarwyddwr 91热爆 Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Roedd ei angerdd tuag at ddarlledu cyhoeddus yn amlwg i bawb oedd yn ei adnabod."
'Ffrind am oes'
Yn ystod gyrfa Mr Price gyda'r 91热爆, fe ddaeth 芒 Radio Cymru a Radio Wales i'r awyr, ac roedd yn bennaeth rhaglenni 91热爆 Cymru pan ddaeth S4C i fodolaeth.
Roedd rhaglenni teledu Saesneg 91热爆 Cymru yn y 70au ymhlith y rhai mwyaf cofiadwy o'r degawdau diwethaf, gyda'r ffilm Grand Slam a chymeriadau fel Max Boyce yn ennill poblogrwydd yn y cyfnod.
Yn ddiweddar fe gyhoeddodd lyfr, The Broadcasters of 91热爆 Wales 1964-1990, yn olrhain hanes y cyfnod a'r tensiynau oedd yn bodoli wrth i 91热爆 Cymru esblygu i fod y ganolfan darlledu fwyaf tu fas i Lundain erbyn canol yr 1980au.
Ar y Post Cyntaf, dywedodd un o'i olynwyr fel rheolwr 91热爆 Cymru, Menna Richards, bod Mr Price yn berson cyfeillgar.
"Os oeddech chi'n ffrind i Gareth, roeddech chi'n ffrind am oes. Roedd cyfeillgarwch yn bwysig iawn iddo," meddai.
"Bydde' chi'n gallu dibynnu'n llwyr ar ei deyrngarwch, ei gefnogaeth, cymwynas a'i ddoethineb."
Ar 么l iddo adael y 91热爆 aeth i weithio i'r corff rhyngwladol Sefydliad Thomson, ac yn ddiweddarach roedd yn aelod o Sefydliad y Cenhedloedd Unedig ac yn gadeirydd ymddiriedolwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Roedd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ac fe gafodd Fedal Cymdeithas y Gymanwlad yn 2006 am ei Wasanaeth i Ddarllediad Cyhoeddus Rhyngwladol.
'Cefnogi talent newydd'
Ychwanegodd Rhodri Talfan-Davies: "Dros chwarter canrif, bu i Gareth fod yn rhan ganolog o wead 91热爆 Cymru fel cynhyrchydd, pennaeth rhaglenni ac yna'n bennaeth mewn cyfnod o newid mawr i ddarlledu yng Nghymru.
"Roedd yn rhan ganolog o sefydlu Radio Cymru a Radio Wales fel gorsafoedd cenedlaethol yn ogystal 芒 chreu perthynas newydd rhwng y 91热爆 ac S4C, pan lansiwyd y sianel yn 1982.
"Lle bynnag yr oedd, roedd pobl yn golygu popeth i Gareth. Roedd ganddo allu anhygoel i adnabod a chefnogi talent newydd, a haelioni wnaeth wahaniaeth i gymaint o bobl oedd yn ceisio gwneud eu ffordd yn y diwydiant.
"Yn fwy na dim, rwy'n mynd i golli ei ddoethineb a'i dreiddgarwch yn ogystal 芒'i gariad di-ben-draw at ddarlledu a phosibiliadau creadigol y cyfrwng. Roedd gan Gareth bob amser brosiect newydd neu syniad i fyfyrio trosto a'i drafod.
"Ar amser mor anodd, mae ein meddyliau efo Mari a'r teulu - ac rydym yn anfon ein cydymdeimlad a'n cofion atynt."