Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am eglurder ar wariant gwasanaethau plant Powys
Gall fod angen neilltuo miliynau o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau plant ym Mhowys yn dilyn adroddiad damniol, yn 么l panel.
Mae 拢6.1m eisoes wedi ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau plant y sir ar 么l i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru rybuddio fod risg o niwed i blant.
Mewn adroddiad newydd, mae'r pwyllgor archwilio yn dweud y gallai fod angen 拢3.2m ychwanegol, ac "adolygiad brys" o wariant ar staff.
Dywedodd y cyngor y byddai "asesiad manwl" cyn penderfynu, ac fe fydd y cabinet yn trafod y mater ddydd Mawrth.
Ym mis Ebrill, cafodd Cyngor Powys wybod y byddai'r sir dal dan oruchwyliaeth fanwl gan weinidogion Llywodraeth Cymru, a hynny er gwaethaf gwelliannau.
Mae adroddiad y pwyllgor yn dweud fod "cynnydd yn parhau i gael ei wneud wrth wella'r gwasanaeth", ond mae hefyd yn mynegi "pryder mawr" am y cyllido.
Fe luniodd y cyngor sir gynllun i wella'r sefyllfa a'i anfon i Arolygiaeth Gofal Cymru, ond dywedodd yr adroddiad fod bellach angen "adolygiad brys" o'r sefyllfa.
Mae cynllun y sir yn argymell gwario 拢3.5m ar greu swyddi newydd, ond dywedodd y pwyllgor nad oes eglurhad o bwrpas y swyddi a'u niferoedd, a bod eu swyddogaethau'n aneglur.
Ym mis Mawrth, roedd honiadau nad oedd modd cynnal y gwasanaeth oherwydd y lefel uchel o absenoldeb oherwydd salwch a phobl yn gadael.
Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud fod y cabinet wedi cymeradwyo gwariant ychwanegol o 拢4m ar wasanaethau "ond bod hyn wedi ei wneud heb gynllun busnes oedd wedi ei gostu".
Ychwanegodd yr adroddiad fod gwasanaethau plant ym Mhowys erbyn hyn wedi eu "cyllido'n dda" ond bod angen nawr i ddangos "gwerth am arian".
"Mae pryderon yn parhau am arwyddoc芒d ariannol o fynd i'r afael 芒'r materion yma yn yr hir dymor a'r risg sy'n bodoli i gyllideb y cyngor."