Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sychder yn datgelu rhai o olion Capel Celyn
Ymysg yr olion sydd wedi dod i'r golwg yn y tywydd sych mae arwydd ag arno enw un o'r tai a foddwyd yng Nghapel Celyn i greu cronfa ddŵr Llyn Celyn ger y Bala.
Wrth ar lannau sych y llyn sylwodd Mabon ap Gwynfor ar arwydd ffermdy Garnedd Lwyd wedi ei folltio ar graig a'i olchi gan flynyddoedd o ddŵr Tryweryn.
"O'r holl bethau oedd i'w gweld, y Garnedd Lwyd oedd y tristaf," meddai Mabon ap Gwynfor.
"Roedd yr arwydd yn dod â'r holl beth yn fwy byw rywfodd.
"Hefyd oddi tan y garreg honno roedd yna lechi mawr - llawr y tŷ neu sied mae'n siŵr.
"Roedd y cyfan yn creu'r argraff o fedd, oedd yn teimlo'n addas iawn rhyw ffordd."
Roedd Garnedd Lwyd yn un o 12 fferm a foddwyd gyda'r pentref yn 1965 pan grëwyd y gronfa ddŵr ar gyfer dinas Lerpwl, ac effeithiwyd ar diroedd pedair fferm arall.
Mr John William Evans a Mrs Mabel Evans oedd yn byw yno ac mae yng nghasgliad enwog Geoff Charles o ddyddiau olaf Capel Celyn.
Cafodd Mr a Mrs Evans eu lladd mewn damwain car ger Cerrigydrudion yn fuan wedi i'r lluniau gael eu tynnu.
Ond nid arwydd gwreiddiol yr hen ffermdy yw'r plac.
Mae yn dangos ei fod yn un o nifer a osodwyd ar safle'r hen dai yn ystod haf sych 1989 pan ostyngodd lefel y dŵr yn y llyn i ddatgelu olion y pentref, gan gynnwys y bont a lleoliad yr hen fynwent.
Gwnaed y cais i Dŵr Cymru am y placiau bryd hyn gan y cynghorydd lleol, Elwyn Edwards fel bod pobl yn gallu gweld lle roedd yr hen dai.
Cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bod am adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn ar gyfer y ddinas yn 1955.
Er y protestiadau a gwrthwynebiad gwleidyddion ac aelodau seneddol Cymru cafodd mesur ei basio yn y senedd yn 1957 i foddi pentref Capel Celyn a dechreuodd y gwaith yn 1958.
Roedd y gwaith wedi ei orffen yn 1965. Yn ogystal â'r ffermydd boddwyd 800 erw o dir y cwm, yr ysgol, llythyrdy, capel a'r fynwent i greu'r gronfa.
Yn 1989 doedd Dŵr Cymru ddim yn gwybod pryd y byddai'r placiau'n dod i'r golwg eto.
Os yw dŵr y llyn yn gostwng ymhellach gyda'r tywydd sych, tybed pa olion eraill ddaw i'r golwg?
Hefyd o ddiddordeb: