'Angen amddiffyn merched yng Nghymru rhag dioddef trais'

Disgrifiad o'r llun, Miloedd yn gorymdeithio yng Nghaerdydd ym Mehefin i gofio canrif ers rhoi'r bleidlais i fenywod yn 1918

'Mae angen gwneud mwy i amddiffyn menywod a merched yng Nghymru rhag dioddef trais' - dyna neges Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae adroddiad, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa ddydd Llun, yn nodi hefyd nad oes digon yn cael ei wneud o hyd i sicrhau bod merched ar draws y DU yn llwyddo.

Mae yna bryderon pellach y bydd gwasanaethau i ferched yn lleihau wedi i Brydain adael yr UE.

Dywedodd Ruth Coombs, pennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: "Yng Nghymru mae gennym y potensial i fod yn arweinwyr byd ac i ddod 芒 thrais yn erbyn merched i ben.

"Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a'r Adolygiad Cydraddoldeb Rhywiol yn rhoi cyfleoedd amserol i ni osod agenda am newid.

"Rhaid i ni droi'r ymrwymiad yn weithred er budd pawb yng Nghymru."

Mae'r adroddiad yn dangos bod y nifer o droseddau rhyw yn codi.

Nodir mai dim ond 15% o ddioddefwyr sy'n cyfeirio troseddau rhyw at yr heddlu a bod gweithrediadau cymdeithasol fel #MeToo wedi dangos y profiadau erchyll y mae merched yn eu hwynebu.

'Llawer o waith i'w wneud'

Fe wnaeth y Comisiwn roi cyllid i Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru er mwyn iddynt gynhyrchu a chyflwyno adroddiad eu hunain fel rhan o'r broses.

Disgrifiad o'r llun, Catherine Fookes yn dweud bod yn rhaid ariannu a gweithredu deddfwriaethau positif er budd merched

Dywedodd Catherine Fookes, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru: "Ry'n yn falch o gymryd rhan yn yr adolygiad.

"Yng Nghymru mae gennym ddeddfwriaeth bositif sy'n gosod fframwaith ardderchog ar gyfer cydraddoldeb merched - ond mae'n rhaid i ni wneud yn si诺r fod pob deddfwriaeth yn cael ei gweithredu a'i hariannu - yn enwedig ym meysydd arweinyddiaeth wleidyddol, cyflogaeth a thrais yn erbyn merched.

"Mae yna lawer o waith i'w wneud."

Yn yr adroddiad mae'r Comisiwn yn argymell bod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Waredu Gwahaniaethu yn erbyn Merched yn gofyn i Lywodraeth Cymru sut y maent yn mynd i ddelio 芒 phryderon y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yngl欧n 芒 chyflymder a chysondeb gweithredu gofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Mae'r Comisiwn hefyd yn gofyn i lywodraethau Cymru a'r DU i ystyried ymhlith eraill faterion cysylltiedig 芒 lle'r ferch mewn gwleidyddiaeth, gofal plant, gwahaniaethu yn y gweithle ar sail rhyw a gweithio oriau hyblyg.