Cymraes yn ennill Ras yr Wyddfa

Disgrifiad o'r fideo, Roedd hi'n waith caled ar y mynydd, meddai Bronwen Jenkinson, a enillodd ras y merched.

Mae Cymraes wedi ennill Ras yr Wyddfa am y tro cyntaf ers 29 o flynyddoedd.

Fe groesodd Bronwen Jenkinson o Waunfawr y llinell derfyn ar 么l 1 awr 20 munud a 44 eiliad.

Mae Ms Jenkins, 21, sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Leeds, yn rhedeg dros Gymru hefyd.

Yr Eidalwr Alberto Vender oedd yn fuddugol yn ras y dynion, gyda Chris Holdsworth a oedd yn cynrychioli Lloegr heddiw yn ail, a'r Cymro cyntaf, Rob Samuel o Lanberis, yn croesi'r llinell yn y trydydd safle.

Disgrifiad o'r llun, Alberto Vender o'r Eidal ennillodd ras y dynion gyda amser o 1.06.42

Hon oedd y 43ain ras yn cael ei chynnal ar lethrau mynydd uchaf Cymru, ac roedd trefnwyr wedi disgwyl i dros 600 o redwyr gymryd rhan.

Mae'r cwrs yn 10 milltir o hyd ac mae'n rhaid i'r rhedwyr redeg i fyny o Lanberis ac ar hyd rhai o lwybrau mwyaf poblogaidd i gerddwyr.

Ddydd Gwener, dywedodd un o drefnwyr y ras eu bod nhw wedi ystyried symud i ras i fis Medi pan fydd llwybrau'r mynydd yn dawelach.

Disgrifiad o'r llun, Y Cymro cyntaf dros y llinell oedd Rob Samuel o Lanberis