Trefnydd Ras yr Wyddfa yn pryderu am lwybrau prysur

Disgrifiad o'r llun, Yr Eidalwr Davide Magnini enillodd Ras yr Wyddfa yn 2017

Mae trefnydd Ras yr Wyddfa wedi mynegi pryder am brysurdeb ar hyd llwybrau'r mynydd wrth i fwy o ymwelwyr ddod i gerdded yno o flwyddyn i flwyddyn.

Dywedodd bod "gor-farchnata'r Wyddfa" yn broblem wrth i gyflwr y llwybrau ddirywio.

Yn ystod y ras, fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf, bydd llwybrau'r Wyddfa yn parhau ar agor i'r cyhoedd ac mae trefnwyr y ras yn annog cerddwyr i fod yn ofalus.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn cydnabod "pwysau cynyddol" ar drigolion yr ardal a cherddwyr wrth i'r niferoedd sy'n ymweld 芒'r Wyddfa gynyddu.

Symud y ras?

Dros y penwythnos, bydd y 43ain ras yn cael ei chynnal ac mae'r trefnydd Stephen Edwards yn galw am well rheolaeth o'r mynydd.

Dywedodd Mr Edwards nad yw rhannu llwybrau'r ras gyda cherddwyr cyffredin yn ddelfrydol: "Mae o'n broblem, ond fedrwn ni ddim 'neud dim amdano.

"Unig betha 'dan ni'n ofyn ydi i bobl fod yn ymwybodol o'r ras a dyna beth 'dan ni'n 'neud efo'r arwyddion ar y ffordd."

Mae'r ras wedi ei symud o 14:00 i 12:00 eleni er mwyn i redwyr allu treulio mwy o amser yn yr ardal.

Disgrifiad o'r sainStephen Edwards: 'Wedi meddwl am symud y ras'

Mae Mr Edwards hefyd wedi ystyried symud y ras i fis Medi, pan fydd llwybrau'r mynydd yn dawelach.

Fodd bynnag, mae'n dweud bod digon o ddigwyddiadau eraill yn cael eu trefnu gan gwmn茂au masnachol yn ystod yr haf ac na ddylai'r gr诺p cymunedol sy'n trefnu Ras yr Wyddfa orfod ildio.

Dywedodd bod angen i Barc Cenedlaethol Eryri, yr awdurdodau lleol a'r gwasanaethau argyfwng gydweithio i "reoli" y mynydd.

"Mae pobl yn dod yma, mae busnesau'n elwa ac os allwn ni reoli fo, fyddwn ni fel ras gymunedol yn gallu cario 'mlaen am 43 mlynedd arall."

'Pwysau cynyddol'

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn cydnabod bod "cynnydd blynyddol" wedi bod yn nifer y bobl sy'n ymweld 芒'r Wyddfa yn y blynyddoedd diwethaf.

Maen nhw wedi datblygu Cynllun yr Wyddfa i geisio delio 芒'r holl brysurdeb ar lwybrau'r mynydd.

"Trwy'r cynllun, byddwn yn ceisio mynd i'r afael 芒'r broblem yma trwy annog pobl sy'n bwriadu ymweld 芒'r Wyddfa i wneud hynny ar adegau tawelach o'r flwyddyn.

"Byddai hyn yn helpu i wasgaru'r pwysau ar adnoddau ac isadeiledd yr Wyddfa, yn ogystal 芒 chreu mwy o swyddi gydol y flwyddyn."

Mae'r Awdurdod hefyd yn dweud nad yw'n bolisi ganddynt i "farchnata" yr Wyddfa, dim ond darparu gwybodaeth i ymwelwyr.