Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cais treftadaeth i rannu stori 'ryfeddol' llechi Gwynedd
Mae ardaloedd llechi Gwynedd yn paratoi i gyflwyno cais ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Y gobaith ydy y bydd cais llwyddiannus yn dod 芒 mwy o arian i'r economi leol ac yn creu swyddi ym maes twristiaeth.
Mae'r saith ardal sy'n rhan o'r cais yn cynnwys Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant, Abergynolwyn ac Aberllefenni.
Gobaith Cyngor Gwynedd, sy'n arwain y cais, yw y bydd statws treftadaeth yn help i gynyddu swyddi o fewn y diwydiant twristiaeth o 8,000 i 14,000 erbyn 2030.
Yn 么l eu ffigyrau byddai'r trosiant y diwydiant twristiaeth yn codi o dros 拢500m i 拢850m erbyn 2030.
Yn 么l y cynghorydd Iwan Thomas, sy'n arwain ar ddatblygu economaidd ar gyngor Gwynedd, byddai statws treftadaeth yn rhoi cyfle i bentrefi ar draws Gwynedd.
"Mae rhywle fel Caernarfon, sydd efo dynodiad [treftadaeth] yn barod yn dod a nifer o ymwelwyr, ac mae nifer o bobl sy'n dod i ymweld 芒 llefydd yn edrych am y statws yma.
"Rydym wedi gweld yr angen i weld buddsoddiad yn ein pentrefi ni ac mae hwn yn galluogi ein bod yn gallu gwneud hynny."
Dywedodd Dafydd Roberts, ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis eu bod yn llwyr gefnogi'r fenter.
"Rydym yn rhan o'r Amgueddfa Genedlaethol ac mae gennym gasgliadau sy'n ein galluogi i adrodd stori ehangach y diwydiant llechi.
"'Di o ddim yngl欧n 芒'r peirannau yn unig - er bod peiriannau rhyfeddol i'w gael - ond mae gwybodaeth yn y casgliadau am ddaeareg, gwyddoniaeth a chelf a llen gwerin ac yn y blaen.
"Mae'n gyfle i ni, maes o law, i ddefnyddio ein holl wybodaeth i ddweud stori ryfeddol, stori ehangach y diwydiant llechi, ei br枚ydd a'i bobl."
Nerys Jones ydy rheolwraig Castell Penrhyn ac mae'n dweud y byddai statws treftadaeth hefyd yn gyfle i s么n wrth ymwelwyr am hanes Streic Fawr y Penrhyn, wnaeth bara rhwng 1900 a 1903.
"'De ni wedi bod yn gweithio gydag ysgolion, partneriaid busnes, unigolion a thrwy gelf a cherddoriaeth yn dechrau dod a'r straeon yn fyw.
"'De ni wedi gwneud ymdrech fawr i ddweud yr hanes - hanes y Streic Fawr - yn iawn.
"Stori pobl leol yw stori Streic Penrhyn, ond mae'n rhan o stori fawr iawn."
Bydd Cyngor Gwynedd yn cyflwyno eu cais am statws treftadaeth ym mis Medi, ond bydd yn rhaid aros dwy flynedd cyn penderfyniad terfynol UNESCO.