Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Skates ddim am sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi cadarnhau na fydd yn sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, ac y bydd yn cefnogi Mark Drakeford yn lle hynny.
Mewn datganiad ar y cyd gyda'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths, dywedodd Mr Skates mai Mr Drakeford ddylai fod wrth y llyw yn ystod proses Brexit.
Dywedodd AC De Clwyd ei fod wedi ystyried sefyll, ond bod rhaid teimlo "nid yn unig mai chi yw'r person iawn, ond fod y person iawn ar amser yn iawn" hefyd.
Mae cefnogaeth y ddau aelod cabinet diweddaraf yn golygu mai Mr Drakeford sydd 芒'r gefnogaeth gryfaf o bell ffordd ymhlith ACau Llafur.
'Wedi ystyried'
Mae ganddo eisoes gefnogaeth 11 o gyd-aelodau, o'i gymharu 芒 phedwar ar gyfer Vaughan Gething.
Hyd yn hyn does dim ACau wedi datgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus i Huw Irranca-Davies ac Eluned Morgan.
Mae angen i unrhyw ymgeiswyr sydd eisiau bod ar y papur pleidleisio ddenu cefnogaeth o leiaf pump o ACau'r blaid.
Dywedodd Mr Skates nad oedd wedi dod i gytundeb gyda Mr Drakeford, ond eu bod wedi trafod y polis茂au y byddai'n eu dilyn petai'n arweinydd.
"Fydden i'n bendant ddim yn diystyru sefyll mewn gornest yn y dyfodol," meddai Mr Skates wrth 91热爆 Cymru.
"Fe wnes i ystyried mynd amdani ac mae pobl wedi bod yn dyfalu ers sbel pwy fydd y prif weinidog nesaf, pwy fydd arweinydd nesaf Llafur Cymru.
"Mae fy enw i wedi cael ei grybwyll sawl gwaith. Mae'n neis i glywed, ond ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid gadael hunanbwysigrwydd allan ohoni.
"Y peth pwysig yw buddiannau'r wlad a sicrhau bod y person gorau ar yr adeg yma'n cael eu hethol yn brif weinidog."
Cefnogaeth Griffiths
Mae Mr Drakeford, sydd wedi arwain ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit, wedi awgrymu y byddai'n aros fel prif weinidog am tua phum mlynedd, gan gamu o'r neilltu rywbryd yn ystod y tymor Cynulliad nesaf.
Mewn datganiad dywedodd Ms Griffiths ei bod hi eisiau arweinydd "sy'n deall yr angen i daclo'r teimlad o raniad sy'n tyfu rhwng gogledd a de" Cymru.
"Wrth edrych am rywun gyda'r nodweddion dwi wedi nodi, allai ond ddod i'r casgliad mai Mark Drakeford yw'r person hwnnw a dwi'n falch o gynnig fy nghefnogaeth lawn iddo yn y frwydr arweinyddol sydd i ddod," meddai.
Bydd Carwyn Jones yn trosglwyddo'r awenau i'w olynydd ym mis Rhagfyr wedi naw mlynedd yn y swydd.
Cyn hynny, mae'n rhaid i Lafur Cymru benderfynu dan ba reolau y byddan nhw'n cynnal yr ornest arweinyddol.
Bydd cynhadledd arbennig ym mis Medi yn penderfynu a fyddan nhw'n cadw coleg etholiadol presennol y blaid.
Y dewis arall - un sydd wedi'i gefnogi gan Mr Drakeford ymhlith eraill - fyddai symud tuag at system un-aelod-un-bleidlais.