Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y cyfarwyddwr teledu Terry Dyddgen-Jones wedi marw
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr teledu, Terry Dyddgen-Jones, fu farw'n 67 oed.
Bu'n gweithio ar rai o operâu sebon mwyaf y 91Èȱ¬ ac ITV, gan gynnwys Pobol y Cwm, Coronation Street ac Eastenders.
Dywedodd cynhyrchydd cyfres Pobol y Cwm, Llyr Morus ei fod yn achos tristwch cyhoeddi fod Mr Dyddgen-Jones wedi marw yn dilyn salwch byr: "Bu farw yn Ysbyty Felindre gyda'i deulu o'i gwmpas."
"Roedd profiad Terry fel aelod o deulu Pobol y Cwm yn unigryw," meddai Mr Morus. "Bu iddo ymddangos yn y gyfres fel y cymeriad Iolo Griffiths yn y 70au hwyr yn ogystal â fel aelod o'r tîm cynhyrchu.
"Bu'n gynhyrchydd cyfres cryf a chyfarwyddwr poblogaidd iawn ymysg yr holl gast a chriw."
'Gwacter'
Ychwanegodd Mr Morus: "Mae gwacter mawr ar hyd Stryd Fawr Cwmderi heddiw - pan dorrwyd y newyddion i'r cast a criw roedd 'na lot fawr o ddagrau, ond ar yr un pryd cafwyd sgwrsio braf wrth hel atgofion melys am yr amser hapus o fod yng nghwmni Terry.
"Mawr oedd ei gyfraniad a mawr fydd y golled ar ei ôl."
Yn 1997, aeth Terry Dyddgen-Jones ymlaen i weithio ar opera sebon Coronation Street, gan gyfarwyddo dros 200 o benodau.
Cafodd gyfnodau'n cyfarwyddo cyfresi eraill fel Hollyoaks, Eastenders ac Emmerdale.
Dywedodd llefarydd ar ran ITV: "Roedd Terry yn gyfarwyddwr uchel ei barch ar Coronation Street, ac fe gyfarwyddodd dros 200 o benodau, gan ddod â rhai o olygfeydd clasurol Corrie i'r sgrin yn gelfydd.
"Bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith y cast a'r criw."
Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y byddai'n cael ei urddo â'r wisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 1
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys i S4C: "Bu S4C yn ffodus iawn o allu denu cyfarwyddwr a chynhyrchydd mor ddeinamig a hael gyda'i brofiad â Terry Dyddgen-Jones i weithio ar eu cynyrchiadau a bu wrth galon llwyddiant nifer o'n cyfresi drama mwyaf llwyddiannus.
"Fe fydd y diwydiannau creadigol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn dlotach heb ei angerdd a'i frwdfrydedd byrlymus dros greu drama boblogaidd o'r safon ucha'."
'Brawd mawr'
Un fu'n gweithio gydag e ar sawl achlysur oedd Gillian Elisa: "Nethon ni Bobl Bach 'da'n gilydd a gethon ni lot o sbort.
"Roedd gweithio gyda fe yn teimlo'n gyfforddus, achos roedd e'n teimlo fel brawd mawr i fi.
"Ro'n i'n teimlo bod mwy i Terry na actio, a doedd e ddim yn syrpreis ei fod e wedi mynd i gyfarwyddo a chynhyrchu."
Ychwanegodd mae ef a'i pherswadiodd i ddychwelyd i Pobol y Cwm yn y flwyddyn 2000.
"Roedd e'n neis cael gweithio gyda fe eto ar ôl yr holl flynyddoedd," meddai.
"Roedd e a'i wraig Judith yn gwpl hyfryd, ac roedd e'n ddyn teulu, yn browd iawn o'i blant ac wastad yn eu cynnwys nhw yn y sgwrs.
"Mae'n ergyd enfawr ein bod ni wedi colli un arall mor dalentog."
Yn fwy diweddar, roedd yn gyfrifol am gyfarwyddo rhan o gyfres Parch ar S4C.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd awdur y gyfres, y Dr Fflur Dafydd ei fod yn "gyfarwyddwr nodedig a gyfrannodd gymaint at deledu Cymru a'r DU".
"Braint oedd ei gael yn rhan o deulu #Parch am y ddwy flynedd ddiweddaf.
"Cymeriad hoffus dros ben. Yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yn eu colled enbyd."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 2
Dywedodd y perfformiwr Stifyn Parri fod Terry Dyddgen-Jones wedi bod yn ddylanwad mawr arno: "Mae gen i ddyled mawr iddo fel cyfarwyddwr, ac mi roedd o'n ffigwr tadol tu hwnt i mi ar gychwyn cynta' fy ngyrfa, fel sawl artist arall, ar y gyfres Coleg, yn nyddiau cychwynnol S4C.
"Ers hynny, mae Terry wedi bod yn ffrind, yn gynghorydd ac yn arwr i mi.
"Mae ei waith fel cyfarwyddwr teledu yn Nghymru a Lloegr wedi bod yn arloesol ac mi fydd 'na golled mawr ar ei ôl.
"Diolch Terry am bopeth, mi roeddet ti'n arbennig, ar sawl lefel, ac mi fydd dy angerdd, dy ddylanwad a dy waith hefo ni am byth. Cwsg yn dawel."
'Ysbrydoli'r ifanc'
Aeth Terry Dyddgen-Jones ymlaen i rannu ei flynyddoedd o brofiad ym myd teledu gyda myfyrwyr, drwy gynorthwyo i ddatblygu un o gyrsiau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Wrth rhoi teyrnged iddo, dywedodd llefarydd ar ran y coleg ei fod yn "ŵr bonheddig, profiadol yn ei faes oedd â gallu rhyfeddol i ysbrydoli perfformwyr ifanc".
"Roedd yn un o sylfaenwyr ein cwrs BA Perfformio a gwelwyd ein myfywrwr yn elwa'n sylweddol iawn o'i arbenigedd a'i barodrwydd i gefnogi talentau ifanc Cymru."