Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth Cymru i dderbyn 拢1.2bn o arian ychwanegol
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn 拢1.2 biliwn yn ychwanegol o ganlyniad i'r cynnydd ar wariant ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.
Ddydd Sul cyhoeddodd Theresa May y byddai Llywodraeth y DU yn buddsoddi 拢20 biliwn yn ychwanegol yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr erbyn 2023/24.
Daeth y cyhoeddiad yn y flwyddyn mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.
O ganlyniad i'r cyhoeddiad, fe fydd Cymru nawr yn derbyn 拢1.2bn drwy fformiwla Barnett.
Mae fformiwla Barnett yn penderfynu ar lefel gwariant cyhoeddus yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a'r Alban gan ddyrannu cyllid yn 么l maint y boblogaeth a'r pwerau a ddatganolwyd iddynt.
'Angen gwario ar y gwasanaeth iechyd'
Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut bydd yr arian ychwanegol yn cael ei wario yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ei fod yn annog Llywodraeth Cymru i wario'r arian ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.
"Wrth i'r GIG ddathlu ei 70, rwy'n erfyn yn gryf ar Lywodraeth Cymru i wario'r arian ychwanegol yn strategol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau iechyd yng Nghymru," meddai.
"Fe allai'r arian yma gael ei ddefnyddio i wella perfformiad yn y meysydd lle mae Cymru ar ei h么l hi."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn croesawu penderfyniad hwyr Llywodraeth y DU - penderfyniad ry'n wedi bod yn gofyn amdano ers tro.
"Er ein bod yn croesawu cyllid ychwanegol, rhaid peidio anghofio petai y gyllideb yng Nghymru wedi tyfu yn unol 芒 chwyddiant rhwng 2010-11 a 2019-20, mi fyddai'r gyllideb 拢4bn yn uwch na'r hyn yw hi heddiw.
"Bydd y penderfyniadau ynglyn 芒 sut fydd y cyllid ychwanegol yn cael ei wario yn cael eu gwneud gan gabinet Llywodraeth Cymru."