Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Geraint Thomas yn ennill ras y Criterium du Dauphine
Mae Geraint Thomas wedi ennill y Criterium du Dauphine er i'w fantais gael ei gwtogi ar ddiwrnod olaf y ras.
Doedd hi ddim yn rhwydd i gyd i seiclwr Team Sky, gafodd byncjar yn ystod y ras a gorfod newid ei olwyn.
Ar un adeg roedd tua 40 eiliad y tu 么l i'r gr诺p oedd yn cynnwys ei ddau brif wrthwynebydd, Adam Yates a Romain Bardet, ag yntau wedi dechrau'r diwrnod gyda mantais o funud a 29 eiliad dros Yates.
Ond llwyddodd i gau'r bwlch ac er gwaethaf ymosodiad hwyr gan Bardet a Yates llwyddodd y Cymro i gadw digon o fantais dros y ddau i ddal ei afael ar y crys melyn.
Gorffennodd Thomas yn bumed yn y cymal olaf, gyda Yates o d卯m Mitchelton-Scott yn gyntaf, David Navarro Garcia o UCI Continental yn ail, a Bardet o AG2R yn drydydd.
Roedd hynny'n ddigon i sicrhau ei fod yn fuddugol o funud yn y dosbarthiad cyffredinol, gyda Yates yn ail a Bardet yn drydydd.
Roedd y ras drwy'r Alpau eleni yn cynnwys saith cymal, gyda Thomas yn brif feiciwr Sky yn absenoldeb Chris Froome.