Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tri cyfarwyddwr cwmni adroddiad Tawel Fan yn gadael
Mae tri o gyfarwyddwyr corff wnaeth gyhoeddi adroddiad yn ymchwilio i uned iechyd meddwl yn y gogledd bellach wedi gadael eu swyddi.
Fis diwethaf fe wnaeth y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) gyhoeddi adroddiad hir ddisgwyliedig i'r amgylchiadau ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ddod i'r casgliad nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol a bod y gofal yn "o safon dda yn gyffredinol".
Roedd hynny'n mynd yn groes i adroddiad blaenorol gan Donna Ockenden, oedd wedi honni "camdriniaeth sefydliadol" yn yr uned.
Ymddeoliadau
Mae HASCAS bellach wedi cadarnhau bod tri aelod o fwrdd yr elusen wedi camu o'r neilltu am "resymau personol".
Fe wnaeth Christopher Welton adael y bwrdd ym mis Mawrth 2018, ac fe wnaeth Chris Dent a Tina Coldham adael ddiwedd Mai.
Mae prif awdur adroddiad Tawel Fan, Dr Androula Johnstone, hefyd wedi gadael ei r么l ar y bwrdd ond mae'n parhau i fod yn gyfarwyddwr ar gangen elusennol HASCAS, ac yn brif weithredwr ar y corff.
Mewn datganiad dywedodd HASCAS fod dau o'r aelodau wedi gadael oherwydd eu bod yn ymddeol, a bod Dr Johnstone wedi gadael oherwydd "pwysau amser".
"Rydym yn ddiolchgar i Christopher, Chris a Tina am eu hymroddiad, a'r holl waith caled maen nhw wedi'i gyfrannu at ein sefydliad dros eu blynyddoedd o wasanaeth, ac rydym yn dymuno'n dda iddyn nhw yn y dyfodol," meddai HASCAS mewn datganiad.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oedden nhw am wneud sylw yngl欧n 芒 chyfarwyddwyr cwmni preifat.