'Mwy o sylw' i hanes tywysogion Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Castell Caergwrle yn dystiolaeth o'r elyniaeth ysbeidiol rhwng y ddau frawd - Llywelyn ein Llyw Olaf a Dafydd ap Gruffudd
  • Awdur, Si么n Pennar
  • Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru

Bydd hanes tywysogion cynhenid Cymru yn cael mwy o sylw o hyn ymlaen, yn 么l y gweinidog diwylliant.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod "hanes gwerth ei ailadrodd" am y tywysogion "a gynhaliodd sofraniaeth y genedl".

Daeth ei sylwadau wedi cyhoeddiad y bydd corff Cadw yn cymryd gofal o adfeilion castell Cymreig Caergwrle ger Wrecsam - y castell cyntaf iddyn nhw ei ychwanegu i'w casgliad mewn 25 mlynedd.

Bydd yr heneb - gafodd ei godi gan Dafydd ap Gruffudd yn y 1270au - yn cael ei redeg mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Cymuned yr H么b.

Brawd Llywelyn ein Llyw Olaf oedd Dafydd ap Gruffudd - ac mae Castell Caergwrle yn dystiolaeth o'r elyniaeth ysbeidiol rhwng y ddau frawd.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod "hanes gwerth ei ailadrodd" am y tywysogion "a gynhaliodd sofraniaeth y genedl"

Mae'r muriau ar dir dderbyniodd Dafydd gan Frenin Lloegr, Edward I, am ei gefnogi ar faes y gad yn erbyn ei frawd.

Newidiodd teyrngarwch Dafydd yn ddiweddarach, ac yn dilyn buddugoliaeth Edward dros y tywysogion Cymreig, cafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru yn yr Amwythig yn 1283.

Dywedodd Helen Mrowiec ar ran y bartneriaeth fod gan y castell yng Nghaergwrle "stori unigryw" i'w rannu, sy'n "fwy diddorol" na rhai o gestyll mwy adnabyddus Cymru.

Yn 么l yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, bydd cestyll tebyg i'r un yma yn cael mwy o sylw.

"Tywysogion Cymru gynhaliodd sofraniaeth y genedl mewn dyddiau anodd - mae hwnna'n hanes gwerth ei ddweud a'i ailadrodd," meddai.

"A'r ffordd orau o'i ailadrodd ydy drwy dalu parch i'r adeiladau a godwyd ganddyn nhw, a lle roedden nhw'n gallu amddiffyn hawliau'r genedl."

Cytundeb mewn egwyddor sydd rhwng Cadw a'r cynghorau lleol ar newid y drefn yng Nghastell Caergwrle, a dyma fydd y 43ain castell yng nghasgliad y corff treftadaeth.