Carchardai Cymru wedi gwaethygu yn 么l y Prif Arolygydd

Disgrifiad o'r llun, Roedd arolwg diwethaf Carchar Abertawe yn "ofidus" yn 么l y Prif Arolygydd Carchardai

Mae'r Prif Arolygydd Carchardai wedi rhybuddio ASau fod cyflwr carchardai Cymru wedi gwaethygu.

Yn 么l Peter Clarke mae "dirywiad" wedi bod yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig yng Ngharchar Abertawe pan oedd yr arolwg diwethaf yn "ofidus".

Dywedodd fod ymateb y carchar i'r arolwg diwethaf y "gwaethaf 'dwi erioed wedi ei weld yn unman," gyda dim ond 14% o'r argymhellion wedi'u cyflawni.

Dywedodd 40% o'r carcharorion wrth arolygwyr fod modd cael gafael ar gyffuriau yn hawdd, gyda 17% o garcharorion wedi troi'n gaeth i gyffuriau.

Cyffuriau

Roedd Mr Clarke yn rhoi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig fewn i garchardai.

Ychwanegodd fod dirywiad bach yng Ngharchar Caerdydd a Charchar y Parc, gyda Prescoed a Brynbuga wedi "arolygu'n dda iawn".

Tydi'r unig garchar arall yng Nghymru, Y Berwyn, Wrecsam gafodd ei agor yn 2017 ddim wedi cael ei arolygu hyd yma.

Disgrifiad o'r llun, Mae Prif Arolygydd Carchardai Peter Clarke wedi dweud fod ymateb carchar Abertawe i arolwg diweddar y "gwaethaf mae erioed wedi ei weld yn unman"

Mae AS Gorllewin Abertawe, Geraint Davies wedi awgrymu fod carcharorion sydd wedi profi gor-boblogi yn treulio mwy o amser yn eu cell, sy'n cael effaith ar eu hiechyd meddwl ac ar berfformiad y carchar.

Roedd Mr Clarke yn cytuno: "Os yw pobl yn gaeth i'w cell am lawer gormod o amser, beth maen nhw'n ei wneud i basio'r amser?

"Yn anffodus, yn aml iawn maen nhw'n troi at gyffuriau ac mae hynny yn broblem yn Abertawe ble mae 40% o'r carcharorion wedi dweud wrthym ei bod hi'n hawdd iawn cael gafael ar gyffuriau yn dilyn arolwg yno.

"Dywedodd 17% o'r carcharorion yn Abertawe wrthym, eu bod wedi troi'n gaeth i gyffuriau ers bod yn y carchar."

Perfformiad gwael

Ond pwysleisiodd er bod Abertawe yn un o'r carchardai sydd wedi'i gor-boblogi fwyaf, mae sawl un o'r problemau sydd ganddyn nhw'n ymwneud 芒 pherfformiad gwael.

"Roedd tri allan o bedwar o'r asesiadau gafodd eu cynnal yng Ngharchar Abertawe wedi dirywio, roedd hyn yn bryderus, ac mae'n rhaid i mi ddweud roedd yr ymateb i argymhellion yr arolygwyr yn wael iawn, ac un o'r gwaethaf i mi erioed ei weld yn unman."

Mae ASau hefyd yn edrych fewn i'r iaith Gymraeg mewn carchardai. Dywedodd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf dros dro, Elizabeth Moody, ei bod wedi ategu cwyn un carcharor yngl欧n 芒 diffyg llyfrau Cymraeg yng Ngharchar Gartree yn Sir Gaerloyw.