Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pwyslais ar gydberthnasau mewn gwersi addysg rhyw
Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi y bydd newidiadau'n cael eu cyflwyno yn y ffordd y mae addysg rhyw'n cael ei ddysgu yn ysgolion Cymru.
Dan y cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno yn 2022 fe fydd 'na fwy o bwyslais ar bwysigrwydd cynnal cydberthnasau iach a hapus.
Yn dilyn adroddiad gan bwyllgor o arbenigwyr, mae Kirsty Williams wedi dweud y bydd Addysg Rhyw a Chydberthnasau yn newid i fod yn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Wrth ymweld 芒 Blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Casnewydd fe ddywedodd Ms Williams fod "dyddiau addysg rhyw draddodiadol wedi hen fynd".
"Mae'r byd wedi symud ymlaen a rhaid i'n cwricwlwm wneud yr un fath," meddai.
Dan y drefn bresennol mae addysg rhyw a chydberthynas yn rhan statudol o'r cwricwlwm sylfaenol yng Nghymru, ond mae gan ysgolion hawl i benderfynu sut i gyflwyno'r pwnc.
Dan addysg cydberthynas a rhywioldeb bydd disgyblion yn cael dealltwriaeth ehangach o rywioldeb sy'n cynnwys y gymuned LGBTQI+.
Ychwanegodd Ms Williams: "Mae'n ffaith bod cydberthynas a rhywioldeb yn siapio'n bywydau yn ogystal 芒'r byd o'n cwmpas.
"Maent yn rhan hanfodol o bwy ydym ni a sut rydym ni'n deall ein hunain, ein gilydd a chymdeithas."
Un o aelodau'r pwyllgor oedd cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White. Dywedodd fod y cam yn "gyfle cyffrous " ac yn rhywbeth y mae Stonewall Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn ei gylch ers amser.
"Mae'r plant yn cael y wybodaeth yma'n barod gan y teledu, gan blant eraill ar yr iard, ar y we," meddai.
"Mae'n dod yn rhywbeth o gywilydd, mae'n dod yn rhywbeth 'dyn nhw ddim yn cael trafod gydag oedolion a mae'n dod yn broblem wedyn i lot o bobl."
'Peidio chwerthin'
Mae'r adroddiad wedi cael ei groesawu gan nifer o elusennau gan gynnwys NSPCC Cymru.
Dywedodd pennaeth yr elusen, Des Mannion: "Mae hyn yn drobwynt i'n plant a phobl ifanc, ein hysgolion a'r cwricwlwm cenedlaethol.
"Mae'n gam positif a fydd o gymorth i blant allu ddeall ymddygiad a pherthnasau iach a sut i gadw'u hunain yn ddiogel".
Roedd yna groeso i'r newid pwyslais ymhlith disgyblion Ysgol Gymraeg Casnewydd.
Dywedodd un fod trafodaethau'n "rhoi siawns i ni rannu gyda phobl arall rydyn ni'n ymddiried ynddo i beidio chwerthin arnom".