Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gofal iechyd meddwl y gogledd yn 'annheg'
Mae cleifion sydd 芒 chyflyrau iechyd meddwl yn y gogledd yn wynebu "rhwystrau diangen" i dderbyn cefnogaeth, medd un elusen.
Ychwanegodd Mind Cymru fod y gwahaniaeth rhwng lefel y cymorth sydd ar gael ar draws y wlad yn "bryderus iawn".
Dywedodd un claf, Laura Burton o Gaergybi, Ynys M么n, fod y gefnogaeth oedd ar gael yn y de o'i gymharu 芒'r gogledd yn "annheg".
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfadde' bod angen gwelliannau.
Canslo apwyntiadau
Roedd Ms Burton yn diodde' o iselder er pan yn 16 oed, a dywedodd ei bod wedi cael trafferth cael cymorth meddygol pan waethygodd y cyflwr.
"Pan gefais i'r diagnosis, doedd dim ymgynghorydd seiciatryddol ar Ynys M么n. Fe gefais i chwe mis o gael apwyntiadau'n cael eu canslo," meddai.
"Mae pobl yn credu nad yw iechyd meddwl yn broblem yng ngogledd Cymru... mae'n ymddangos nad ydyn nhw'n credu hynny tan i rywun ladd ei hun.
"Does dim normalrwydd pan mae'n dod yn fater o iechyd meddwl yng ngogledd Cymru."
Mae Ms Burton bellach yn gweithio fel swyddog gydag elusen Amser i Newid Cymru, ond yn dweud mai hi yw'r unig berson o'r elusen sy'n byw yn y gogledd a bod mwyafrif y gwaith yn digwydd yn y de.
'Annerbyniol'
Ychwanegodd elusen Mind Cymru fod y gwasanaethau sydd ar gael i bobl yn y gogledd yn "annerbyniol".
Dywedodd pennaeth polisi'r elusen, Simon Jones: "Fe ddaeth arolwg diweddar i'r casgliad bod llai na 10% o siaradwyr Cymraeg yn cael cynnig therapi yn eu mamiaith.
"Mae hynny'n ychwanegu rhwystr diangen i bobl sy'n ceisio cael y gefnogaeth sydd angen pan mae ei angen o.
"Dros y blynyddoedd diweddar, mae cannoedd o bobl wedi gorfod croesi'r ffin o'r gogledd i Loegr am nad yw gwasanaethau ar gael yn lleol."
Andy Roach yw cyfarwyddwr iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a dywedodd: "Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod pobl sy'n profi problem iechyd meddwl yn cael cefnogaeth amserol mor agos i'w cartref ag sy'n bosib."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Cymru gyfan yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru."