Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymgyrchwyr bad achub yn galw am gefnogaeth
Mae ymgyrchwyr sydd yn ceisio cadw bad achub bob tywydd yng Nghei Newydd yn cwrdd dydd Sadwrn er mwyn dwyshau eu protest.
Yn 么l yr RNLI dyw'r cwch bob tywydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn ddigon aml, ac mae yna gynlluniau i ddefnyddio bad achub llai o faint sydd yn addas ar gyfer y lleoliad.
Dywedodd protestwyr y byddai hyn yn creu bwlch 70 milltir ar hyd arfordir Ceredigion lle nad oes bad achub bob tywydd.
Cei Newydd yw lleoliad yr unig fad achub mawr rhwng Abergwaun a'r Bermo.
Bydd yr Aelod Seneddol Ben Lake a'r Aelod Cynulliad lleol Elin Jones yn annerch y cyfarfod, ac mae disgwyl i'r ymgyrchwyr lleol leisio eu gwrthwynebiad i'r newidiadau.
Eisoes maen nhw wedi casglu 20,000 o enwau ar ddeiseb.
Dywedodd yr ymgyrchwyr bod y penderfyniad i israddio'r bad achub yn sioc ac maen nhw yn ofni y gallai hynny beryglu bywydau ar hyd yr arfordir.