Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffrae am ba system i'w ddefnyddio i ethol arweinydd Llafur
Mae rhai o undebau Cymru wedi beirniadu ymdrech i newid y ffordd y bydd arweinydd nesaf Llafur Cymru yn cael eu hethol.
Mae arweinwyr undebau'r GMB, Unsain, USDAW a CWU yn dweud y byddan nhw yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech i "dawelu llais" gweithwyr.
Mae Llafur Cymru yn adolygu'r ffordd mae arweinwyr yn cael eu hethol, gyda rhai wedi galw am gefnu ar y system sy'n rhoi'r un pwysau i bleidleisiau undebau, ASau ac ACau, ac aelodau'r blaid.
Bydd Carwyn Jones yn camu o'i r么l fel arweinydd y blaid yng Nghymru, ac fel prif weinidog, yn yr hydref.
Mae rhai aelodau blaenllaw eisiau i Gymru ddefnyddio'r un system 芒 Lloegr a'r Alban, ble mae pob aelod o'r blaid yn cael un pleidlais o'r un cryfder.
Adolygiad mewnol
Yng Nghymru, pleidlais aelodau'r undebau yw traean o gyfanswm y bleidlais, gyda thraean arall yn mynd i ASau ac ACau, a'r traean olaf i aelodau cyffredinol y blaid.
Mae pwysau wedi bod i symud oddi wrth y system yma, yn cynnwys gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford - yr unig berson hyd yma sydd wedi cyhoeddi y bydd yn ymgeisydd yn y ras am yr arweinyddiaeth yng Nghymru.
Mae'r undebau'n dweud y dylid cwblhau adolygiad mewnol cyn trafod unrhyw newidiadau.
Dywedodd yr undebau mewn datganiad ar y cyd: "Tra'n bod yn barod i edrych ar bwysau pleidleisiau, dydyn ni ddim yn barod i adael i rai elfennau o'n symudiad i dawelu llais yr undebau llafur yn yr etholiadau arweinyddiaeth sydd o'n blaenau."