Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Sioc yn yr ystafell': Yr ymateb i ymadawiad Carwyn Jones
Mae gwleidyddion wedi disgrifio'r "teimlad o sioc yn yr ystafell" wrth i Carwyn Jones gyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu fel prif weinidog.
Fe wnaeth Mr Jones y cyhoeddiad yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno ddydd Sadwrn, gan ddweud y byddai gan y blaid a'r wlad rywun newydd wrth y llyw cyn diwedd y flwyddyn.
"Roedd e'n sioc ac yn emosiynol - roedd rhai dagrau yn y gynulleidfa wrth i Carwyn fynd drwy lwyddiannau'r llywodraeth yma," meddai'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn, ei fod am "ddiolch i Carwyn Jones am ei wasanaeth fel arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog Cymru".
'Dealltwriaeth a chefnogaeth'
Yn ystod y prynhawn mae rhagor o wleidyddion o'r blaid Lafur a thu hwnt wedi bod yn ymateb i'r cyhoeddiad, ddaeth yn syndod i lawer.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn, ei fod am "ddiolch i Carwyn Jones am ei wasanaeth fel arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog Cymru".
"Mae Carwyn wedi arwain Llafur Cymru i lwyddiant digynsail yn etholiadol, gan ffurfio dwy lywodraeth Lafur yn y Cynulliad," meddai.
"Dros y naw mlynedd diwethaf mae wedi gwrthwynebu llymder y Ceidwadwyr a sefyll cornel Cymru fel llais cryf dros ddatganoli a democratiaeth."
Dywedodd Mr Gething, sydd yn aelod o gabinet Mr Jones, nad oedd "am geisio dyfalu" beth oedd yn gyfrifol am benderfyniad y prif weinidog mewn ymateb i gwestiwn yngl欧n 芒'r pwysau diweddar arno yn sgil marwolaeth Carl Sargeant.
"Dwi ddim yn meddwl ei fod e'n gadael dan gwmwl," meddai.
Mae mab Carl Sargeant, Jack, gafodd ei ethol i olynu ei dad yn sedd Alun a Glannau Dyfrdwy, eisoes wedi dweud: "Does dim byd yn newid. Mae'r ymchwiliadau yn parhau i fod yn berthnasol ac fe ddylen nhw barhau."
Mae'r cyn-weinidog, Leighton Andrews wedi bod yn un o feirniaid pennaf Mr Jones yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.
Mewn neges Twitter dywedodd: "Mae'r pum mis a mwy diwethaf wedi bod yn anodd iawn, ac mae cwestiynau'n parhau heb eu hateb fydd yn cael eu hymchwilio gan ymchwiliad Bowen, ond mae'n bwysig cydnabod llwyddiannau nodedig Carwyn yn ystod ei gyfnod fel prif weinidog."
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas bod "teimlad o sioc yn yr ystafell" ac y byddai'r "blaid gyfan yn ystyried yn galed heno beth yw goblygiadau hynny".
"Dwi'n credu y bydd e'n gadael esgidiau mawr i'w llenwi pan ddaw ei gyfnod fel prif weinidog i ben," meddai.
'Cydymdeimlad a chefnogaeth'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod yn "deall ei resymau" dros adael a'i fod wedi gwneud "cyfraniad sylweddol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru".
"Mae digwyddiadau diweddar wedi taflu cysgod dros wleidyddiaeth Cymru a does dim amheuaeth fod colli cydweithiwr a ffrind wedi cael effaith fawr ar y prif weinidog - fel y mae wedi ar bawb," meddai.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns: "Mae fy mherthynas i gyda'r prif weinidog wastad wedi bod yn bositif, pragmatig ac wedi'u gyrru gan ddyhead cyffredin i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.
"Wrth i Brexit ddynesu rydw i'n gobeithio cymryd y berthynas aeddfed oedd gen i gyda'r prif weinidog a sicrhau y byddaf yn gallu gweithio gyda'i olynydd i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd newydd i Gymru."
Yn ei hymateb hithau, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ei bod hi'n "llongyfarch" Carwyn Jones ar ei naw mlynedd wrth y llyw.
Ond ychwanegodd fod yr economi a gwasanaethau cyhoeddus wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod hwnnw a bod "angen mwy na dim ond newid arweinydd ar Gymru".
Dywedodd prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ar Twitter: "Dwi'n dymuno'n dda i @fmwales. Er ein bod ni'n dod o bleidiau gwahanol, rydw i wedi mwynhau gweithio gydag o - yn enwedig yn ein hymdrechion ar y cyd i wrthynebu ymgais San Steffan i gipio p诺er."
Yn gynharach yn y dydd, cafodd Carolyn Harris ei hethol fel dirprwy arweinydd newydd Llafur Cymru.
"Dwi wastad wedi dweud y bydd Carwyn yn mynd pan fydd Carwyn yn barod, ac mae'n amlwg wedi gwneud y penderfyniad er lles ei deulu," meddai Ms Harris.
"Bydda i'n gwasanaethu gyda Carwyn nes bod gennym ni arweinydd newydd."
Ychwanegodd llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan, Christina Rees AS, fod "cyfraniad Carwyn i Lafur Cymru a bywyd cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn sylweddol".
Dywedodd yr AS Llafur Chris Elmore ei fod yn deall pam y byddai Carwyn Jones eisiau camu o'r neilltu ar 么l 18 mlynedd o fod yn weinidog yn y llywodraeth ac yna'n brif weinidog.
"Dwi'n meddwl ei fod e'n mynd ar ei dermau ei hun a gyda record i fod yn falch ohoni... ac yn edrych n么l dros gyfnod llwyddiannus iawn fel prif weinidog."
Gwadodd y byddai'r prif weinidog yn "gadael dan gwmwl" pe bai'n mynd cyn i'r ymchwiliadau i farwolaeth Carl Sargeant ddod i ben.
"Dwi ddim yn meddwl mai fy lle i yw hi i ddweud pryd y dylai'r ymchwiliad yna [gan Paul Bowen QC] gael ei gwblhau."
'Dim hygrededd'
Dywedodd AS Caerffili, Wayne David fod "tipyn o gydymdeimlad, dealltwriaeth a chefnogaeth" i Mr Jones o ystyried y pwysau arno dros y misoedd diwethaf.
"Mae hefyd teimlad o ddiolchgarwch am beth mae wedi'i wneud dros Gymru a'r blaid Lafur."
Roedd gwleidyddion eraill o'r gwrthbleidiau yn llai canmoliaethus, gydag AC Plaid Cymru Bethan Sayed yn trydar: "Alla i glywed y sgwrs yng nghyfarfod y gr诺p Llafur. 'Fe wnawn ni dy gefnogi Carwyn ar beidio rhyddhau'r adroddiad ar ollwng gwybodaeth... os y byddi'n gadael yn reit handi'."
Ychwanegodd yr AC annibynnol, Neil McEvoy: "#Taxi4Carwyn: @fmwales yn camu lawr yn yr hydref. Dim hygrededd o gwbl. Dim dewis."