Lleoli Maes B Eisteddfod Caerdydd yn hen adeilad Dr Who

Ffynhonnell y llun, Google

Bydd cyngherddau Maes B yn Eisteddfod Caerdydd eleni yn cael eu cynnal yn hen adeilad 'Profiad Dr Who' yn y Bae.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth fore Sadwrn.

Dim ond yn ystod y dyddiau diwethaf y cafwyd cytundeb i ganolbwyntio'r gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn yr adeilad sydd ger yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd.

Fe fydd pobl ifanc dros 16 oed yn cael mynd i'r cyngherddau ym Maes B, a bydd bysus ar gael i'w trosglwyddo yn 么l ac ymlaen o'r maes gwersylla ym Mhontcanna.

'Ardaloedd gwahanol'

Dywedodd Ashok Ahir, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd: "Ein bwriad ni o'r dechrau oedd trio cadw popeth i lawr yn y Bae felly ry'n ni'n falch o gyhoeddi nawr y bydd Maes B yn hen adeilad profiad Dr Who.

"Mae'n adeilad gwag ar hyn o bryd, ond mae ganddo ystafelloedd gwahanol sy'n golygu ein bod ni'n gallu creu ardaloedd gwahanol ar gyfer y profiad Maes B - lle ar gyfer y cyngherddau, ond hefyd ardal 'chill-out', disco, ardal ar gyfer bwyd a diod.

"Byddai cynnal Maes B mewn clwb yn y ddinas oedd a thrwydded yn golygu na fydden ni wedi gallu caniat谩u mynediad i neb o dan 18 oed, a doeddwn ni ddim eisiau hynny.

"Y prif beth am Faes B yw'r profiad i bobl ifanc dros 16 oed i gael cyfle i fynd i 诺yl yn y Gymraeg a chymdeithasu gyda phobl ifanc eraill - dyw hyn ddim yn digwydd mewn llefydd eraill."

Disgrifiad o'r fideo, Ashok Ahir: 'Dau neu dri opsiwn' ar gyfer lleoliad Maes B

Clywodd aelodau Cyngor yr Eisteddfod fod pwyllgor lleol prifwyl Caerdydd wedi cyrraedd 80% o'u targed ariannol o 拢320,000.

Mae rhagor o ddigwyddiadau i'w cynnal yn y misoedd cyn dechrau'r 诺yl ac mae cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol yn dweud ei fod yn obeithiol y bydd y targed yn cael ei gyrraedd.

"Dw i'n hapus iawn gyda nifer y digwyddiadau sy wedi cael eu cynnal ar lefel leol - pethau bach nid jyst pethau mawr," meddai Ashok Ahir.

"Mae gennym ni chwarter llawn i gasglu o gwmpas 拢70,000, ac rwyn gwybod bod tua 拢5,000 i 6,000 wedi cael eu casglu mewn digwyddiadau y penwythnos hwn.

"Felly dwi ddim yn siomedig a dwi'n meddwl nawr yw'r cyfle i fynd dros y targed a dangos pa mor fywiog yw'r iaith yng Nghaerdydd."

Rhai ddim am ddod

Clywodd y cyfarfod hefyd ragor o fanylion yngl欧n 芒'r Eisteddfod wahanol fydd yn cael ei chynnal yn y Bae.

Fydd ddim rhaid talu i fynd i mewn i'r maes yng Nghaerdydd ond fe fydd rhaid talu i fynd i ddigwyddiadau yn lloriau uwch Canolfan y Mileniwm lle bydd y Pafiliwn a'r Babell Len. Pris y tocynnau fydd 拢10 ar y diwrnod neu 拢8 os yn prynu ymlaen llaw.

Bydd Pabell y Cymdeithasau a'r Lle Celf tu fewn i adeilad y Senedd. Cafwyd rhybudd gan brif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, y dylid caniat谩u rhagor o amser i fynd trwy fesurau diogelwch y Senedd os am fynd i ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn yr adeilad hwnnw.

Bydd yr oedfa'n cael ei chynnal am 09:15 ar fore Sul yn y Babell Len yng Nghanolfan y Mileniwm, gyda'r Gymanfa Ganu i ddilyn am 10:30 yn y Pafiliwn yn theatr Donald Gordon.

Dywedodd Elfed Roberts bod 70% o docynnau ar gyfer cyngherddau'r Eisteddfod wedi'u gwerthu, a bod lle o hyd ar gyfer stondinau ar y maes a bod digon o le i unrhyw un sydd am garafanio yn ystod y Brifwyl.

Disgrifiad o'r fideo, Elfed Roberts: 'Rhai stondinwyr ddim am ddod eleni'

Wrth gael ei holi os oedd hyn yn arwydd bod Eisteddfodwyr traddodiadol yn bwriadu cadw draw o'r Brifwyl wahanol yn y Bae, dywedodd Elfed Roberts: "Mae rhai stondinwyr ddim yn mynd i ddod eleni am wahanol resymau - rhai yn meddwl na fyddan nhw'n ffitio mewn i'r stondinau sydd gennym ni a rhaid yn poeni am ddiogelwch.

"Mae rhai o'r carafanwyr sydd fel arfer yn dod yn dweud eu bod nhw'n dod ond yn mynd i aros mewn gwesty eleni. Mae Caerdydd yn cynnig llawer mwy o opsiynau.

"Dw i'n ffyddiog y bydd yr Eisteddfodwyr traddodiadol yn dod - ond dwi'n gobeithio hefyd y byddwn ni'n gallu denu lot o ffrindiau newydd. Pobl sydd wedi teimlo yn y gorffennol nad ydyn nhw wedi gallu fforddio talu i fynd i'r maes.

"Cawn nhw ddod am ddim a phrofi beth sydd gan yr Eisteddfod i gynnig iddyn nhw a gobeithio y byddan nhw'n mwynhau ac y gwelwn ni nhw eto yn Sir Conwy yn 2019."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn cael ei chynnal yn Llanrwst rhwng 2 a 9 Awst 2019.

Ond doedd dim cyhoeddiad heddi yngl欧n 芒 lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2020 yng Ngheredigion. Mae disgwyl y manylion yng nghyfarfod nesaf Cyngor yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf.