Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dau o Sir G芒r yn ennill medalau Eisteddfod Bae Caerdydd
Mae enillwyr dau o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol wedi eu cyhoeddi.
Meinir Lloyd o Gaerfyrddin yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams am ei chyfraniad neilltuol i'w hardal leol.
Mae'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg wedi ei chyflwyno i Hefin Jones, Caerdydd, am ei gyfraniad gydol-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y ddau yn derbyn eu gwobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd rhwng 3-11 Awst.
Medal Goffa Syr TH Parry-Williams
Bydd Meinir Lloyd yn derbyn ei gwobr am ei gwaith fel hyfforddwraig a'i chyfraniad neilltuol i'w hardal leol.
Mae Mrs Lloyd wedi bod yn hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc yn ardal Caerfyrddin ers blynyddoedd, nifer ohonynt yn enillwyr cyson mewn eisteddfodau ac yn yr 糯yl Gerdd Dant.
Bu'n organydd yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin, am dros 45 mlynedd, gan drefnu cyngherddau a chymanfaoedd canu lu.
Yn ogystal 芒 bod yn Llywydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru'r llynedd mae hi wedi bod yn hyfforddi sawl c么r a pharti ers blynyddoedd, a hynny yn wirfoddol.
Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
Yn wreiddiol o Bencader, Sir Gaerfyrddin, cwblhaodd Hefin Jones ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Llundain.
Yn dilyn cyfnodau ymchwil amrywiol, fe'i penodwyd yn uwch ddarlithydd yng Nghaerdydd yn 2000 ac ers hynny wedi bod ar flaen y gad yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr meddygol y brifysgol.
Ers 2011 mae Hefin wedi bod yn Ddeon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn gadeirydd ar Fwrdd Academaidd y Coleg, ynghyd ag amryw o bwyllgorau a phaneli eraill cysylltiedig.
Mae hefyd yn llais ac wyneb cyfarwydd ar radio a theledu. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar bynciau gwyddonol, gan gynnwys agweddau moesol datblygiadau gwyddonol, mewn cynifer o gyhoeddiadau.