Trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe 'ddim yn synhwyrol'

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd trenau newydd diesel-drydanol ar y rheilffordd erbyn yr hydref eleni

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio 芒 thrydaneiddio'r lein reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Dywedodd Chris Grayling wrth Aelodau Seneddol nad oedd hi'n "synhwyrol" gwario miliynau o bunnau ar y prosiect.

Cafodd ei herio yn Nh欧'r Cyffredin gan Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi iddi ddod i'r amlwg fod y prif weinidog wedi penderfynu canslo'r cynllun.

Gofynnodd Mr Edwards: "Ai'r realiti yw nad yw llywodraeth Prydain yn teimlo fod gorllewin fy ngwlad yn deilwng o fuddsoddiad?"

Dywedodd Mr Grayling: "Fe drafododd y Prif Weinidog a fi fater Caerdydd i Abertawe ar y pryd a dod i'r casgliad nad oedd gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd o arian y trethdalwyr, gan amharu'n andwyol ar deithwyr er mwyn galluogi rhai trenau i deithio ar yr un llwybr i'r un amserlen a sydd yn bodoli heddiw yn beth synhwyrol i'w wneud."

"Ar lwybr y Great Western, mae'r trenau'n gweithredu yn barod, yn delifro'r gwasanaethau i bobl Abertawe, sy'n fuddsoddiad gwych a phwysig i bobl Abertawe."