'Adlais o araith Enoch Powell cyn refferendwm Brexit'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Enoch Powell ei gyhuddo o hiliaeth yn dilyn yr araith yn 1968

Roedd adleisiau o araith "afonydd o waed" Enoch Powell 50 mlynedd yn 么l i'w clywed yng Nghymru yn ystod refferendwm yr UE, yn 么l un gwleidydd blaenllaw o'r blaid Lafur.

Dywedodd cyn-AS Castell-nedd, Peter Hain ei fod wedi clywed pobl yng nghymoedd y de yn dweud eu bod yn "ddieithriaid yn eu gwlad eu hunain" cyn y bleidlais.

Cafodd Powell ei ddiswyddo o gabinet cysgodol Edward Heath am ei araith yn erbyn mewnfudo yn 1968.

Roedd yr Arglwydd Hain yn siarad 芒 91热爆 Radio Wales yr wythnos hon ar drothwy hanner can mlynedd ers yr araith.

'Yn amlwg yn hiliol'

Fe fu Powell yn siarad gydag aelodau o'r blaid Geidwadol yn Birmingham, a hynny cyn ail ddarlleniad y Bil Cysylltiadau Hiliol.

Roedd y ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon gwrthod tai, swyddi neu wasanaethau cyhoeddus i berson ar sail eu cefndir ethnig.

Fe wnaeth Powell gyfeirio at sylwadau yr oedd wedi eu clywed gan etholwyr yn Wolverhampton, gan gynnwys "mewn 15 neu 20 mlynedd bydd gan y dyn du law'r chwip dros y dyn gwyn".

Gorffennodd ei araith gyda dyfyniad o gerdd Virgil, yr Aeneid, oedd yn darogan rhyfel cartref yn Rhufain gyda'r "Afon Tiber yn trochi 芒 gwaed".

Dywedodd Mr Hain, oedd yn ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn apartheid, wrth raglen Sunday Supplement fod yr araith "yn amlwg yn hiliol".

Disgrifiad o'r llun, Roedd Peter Hain yn ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn apartheid yn Ne Affrica

"Beth wnaeth fy nharo i wrth ei hailddarllen, a meddwl yn 么l i sut ro'n i'n teimlo ar y pryd, oedd sut mae ysbryd Enoch Powell yn dal i daflu cysgod dros wleidyddiaeth Prydain mewn ffordd," meddai cyn-Ysgrifennydd Cymru.

"A dweud y gwir, yn ystod yr ymgyrch Brexit roeddwn i'n curo drysau yng nghymoedd de Cymru, dyna lle nes i ganolbwyntio arno yn y refferendwm achos ro'n i'n gwybod os oedden ni am ennill yng Nghymru byddai'n rhaid ennill yn y cymoedd a'r cadarnleoedd Llafur, ardaloedd yr hen byllau glo.

"Ac roedd fel petai adlais o araith Powell yn dod oddi ar y stepen ddrws.

"Fe wnaeth e ddefnyddio'r frawddeg 'rydyn ni'n troi'n ddieithriaid yn ein gwlad ein hunain' neu 'mae pobl yn troi'n ddieithriaid yn eu gwlad eu hunain' - a dyna'r un math o deimlad oedd yn dod drosodd ar y stepen ddrws.

"Dwi ddim yn dweud mai dyna'r unig beth oedd yn gyrru Brexit, ond fe wnaeth e fy nharo i pan dwi'n dweud fod ei ysbryd wedi taflu cysgod dros wleidyddiaeth Prydain ac wedi gwneud ers degawdau - roedd lot o'r un teimladau."

Bydd Sunday Supplement yn cael ei darlledu ar 91热爆 Radio Wales am 08:00 ddydd Sul 15 Ebrill, a bydd modd gwrando yn 么l ar 91热爆 iPlayer.