Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Marwolaeth carchar Wrecsam yn gysylltiedig 芒 chyffuriau
Mae gwrandawiad crwner wedi clywed fod marwolaeth carcharor yn Wrecsam yn gysylltiedig 芒 defnyddio'r cyffur Spice.
Fe ddaeth swyddogion o hyd i Luke Jones, 22 oed o Flaenau Ffestiniog, wedi marw yng Ngharchar Berwyn ar benwythnos y Pasg.
Yn Rhuthun ddydd Llun, dywedodd Crwner Dwyrain a Chanolbarth Gogledd Cymru, David Pojur, bod y patholegydd wedi nodi achos dros dro'r farwolaeth fel digwyddiad cardiaidd difrifol yn gysylltiedig 芒 defnyddio Spice.
Daw hynny'n dilyn archwiliad post mortem.
Fe gafod y cwest ei agor a'i ohirio yn Neuadd y Sir ddydd Llun, ac fe fydd archwiliadau pellach yn cael eu gwneud cyn y gwrandawiad nesaf.
Aeth y crwner ymlaen i ddweud bod Mr Jones wedi ei ganfod yn anymwybodol yn ei gell am 18:08 ar 31 Mawrth.
Cafodd ei gludo'n syth i Ysbyty Maelor Wrecsam, lle bu farw'n ddiweddarach.
Bydd cwest yn cael ei gynnal maes o law, a bydd rhag-wrandawiad yn cael ei gynnal yn y cyfamser, ond ni chafodd dyddiadau eu pennu.
Dywedodd Mr Pojur y bydd yr Ombwdsman Carchardai hefyd yn cynnal ymchwiliad.