Myfyrwyr yn 'gwerthu cwmn茂aeth'

Ffynhonnell y llun, Mixmike

Disgrifiad o'r llun, Mae dros 200 o fyfyrwyr yng Nghymru wedi cofrestru

Mae mwy na 200 o fyfyrwyr yng Nghymru yn gwerthu eu cwmn茂aeth er mwyn talu am eu cyrsiau, a hynny drwy ddefnyddio ap ar-lein.

Mae app 'Seeking Arrangement' yn cysylltu pobl ifanc gyda dynion h欧n.

Dywedodd llefarydd na all myfyrwyr "bellach ddibynnu ar ddulliau traddodiadol" o dalu am eu hastudiaethau.

Ond mae corff yn y byd addysg uwch yn dweud bod dynion "diegwyddor" yn cymryd mantais o bobl ifanc bregus.

'Er budd y ddwy ochr'

Yn y DU mae 75,000 o fyfyrwyr - yn ddynion a merched - wedi'u cofrestru yn 么l 'Seeking Arrangement'.

Mae'r cwmni'n disgrifio'r trefniant fel "perthynas er budd y ddwy ochr" sy'n gallu cynnwys tripiau siopa, prydau bwyd allan a th芒l misol.

Dywedodd y prif weithredwr Brandon Wade: "Mae pobl ifanc yn deall pwysigrwydd gradd prifysgol ac maen nhw am gyrraedd eu targedau personol, ond ni allan nhw bellach ddibynnu ar ddulliau traddodiadol o fynd drwy eu haddysg."

Mae'r cwmni'n honni y gall pobl ennill cymaint 芒 拢2,730 y mis drwy gwrdd gyda phobl eraill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Seeking Arrangement yn honni fod 75,000 o fyfyrwyr yn y DU wedi cofrestru gyda nhw

'拢750 am swper'

Fe wnaeth myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, Hannah (nid ei henw iawn), ymuno 芒'r ap ar 么l canfod nad oedd yn medru cael dau ben llinyn ynghyd.

Ei 'chwsmer' cyntaf, meddai, ond dyn busnes o'r Almaen, ac roedd "weithiau'n hedfan i Lundain ar fusnes, ac fe ddywedais i mod i'n byw yng Nghymru," meddai.

"Wedyn roedd e'n dod draw i Gaerdydd er mwyn fy ngweld i. Roedden ni'n cael bwyd mewn gwestai, ac roedd e'n talu 拢750 jyst i gael swper gyda fi."

Ond wedyn gofynnodd y dyn iddi fynd i'w ystafell gwesty. Fe wrthododd Hannah.

Dr Diana Beech yw cyfarwyddwr y Sefydliad Polisi Addysg Uwch, a dywedodd: "Mae dynion diegwyddor wedi canfod ffordd o ecsploetio myfyrwyr benywaidd ifanc gan wybod eu bod nhw angen arian."

Cyngor ar gael

Wrth ymateb, dywedodd y bobl sy'n gyfrifol am yr app eu bod yn annog defnyddwyr i "fod yn glir o'r dechrau am yr hyn y maen nhw am gael o'r berthynas".

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae lles ein myfyrwyr yn flaenoriaeth ac fe fyddwn yn annog unrhyw un sy'n cael trafferthion ariannol i ofyn am gyngor gan ein gwasanaeth cefnogi myfyrwyr.

"Mae gan bob myfyriwr fynediad i ystod eang o wasanaethau cefnogol sy'n gyfrinachol a ddim yn eu barnu."

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n gallu gwirio ffigyrau'r cwmni sy'n gyfrifol am yr app, ac nad yw hi'n glir faint o fyfyrwyr sy'n dewis defnyddio'r ffynhonnell yma o incwm.

"Er hynny mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y gall arian fod yn her i rai myfyrwyr sy'n astudio mewn prifysgol," meddai'r llefarydd.

"Dyna pam fod ein system newydd yn cynorthwyo gyda chostau byw myfyrwyr drwy ddarparu'r hyn sy'n cyfateb i gyflog byw tra eu bod yn astudio, fel eu bod yn gallu canolbwyntio ar eu hastudiaethau yn hytrach na phoeni am arian."