Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Salwch staff gwasanaethau plant
Mae gwasanaethau plant ym Mhowys yn "anghynaladwy" gyda staff yn gadael a llawer yn methu gweithio oherwydd salwch, yn 么l adroddiad.
Ym mis Hydref y llynedd, daeth rhybudd bod plant yn wynebu peryg o niwed oherwydd methiannau yng ngwasanaethau cymdeithasol Powys.
Nawr mae adroddiad yn dweud bod gwelliannau wedi digwydd, ond mae'n codi pryderon am y nifer uchel o weithwyr asiantaeth sydd yno.
Mae'r adroddiad yn rhybuddio: "Nid yw hwn yn wasanaeth cynaliadwy i gwrdd ag anghenion tymor hir plant a'u teuluoedd."
Mae'r 91热爆 wedi gofyn i Gyngor Powys am ei ymateb.
'Risg sylweddol'
Mae'r adroddiad, a fydd yn mynd o flaen Cyngor Powys ddydd Mawrth, yn nodi trafferthion staffio.
Yn benodol mae'n son am bwysau ar dimau gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys yn Y Drenewydd a'r Trallwng, lle mae staff yn gadael ac mae lefel uchel o absenoldeb oherwydd salwch.
Mae'r adroddiad gan Rachel Powell, aelod y cabinet am wasanaethau plant, yn dweud: "Mae cynlluniau mewn lle i gryfhau'r timau yma gyda gweithwyr asiantaeth ychwanegol."
Ym mis Hydref, dywedodd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru bod tystiolaeth o fethu cyfleoedd i warchod plant, a bod hynny'n "peri risg sylweddol" iddyn nhw.
Fe roddwyd 90 diwrnod i'r cyngor wneud gwelliannau gan Lywodraeth Cymru.
Dywed yr adroddiad fydd yn mynd gerbron cabinet y cyngor ddydd Iau bod cynllun gwelliant yn gweithio gan ddod 芒 "buddiannau go iawn" i rai plant a'u teuluoedd.
Ond mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod bod ffordd bell i fynd, a bod y cyngor yn realistig am "faint yr heriau sy'n ein hwynebu".