Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd melyn am rew yn parhau i Gymru gyfan
Mae rhybudd melyn am rew yn parhau mewn grym ar gyfer Cymru gyfan, wrth i drafferthion eira barhau.
Yn 么l y Swyddfa Dywydd mae rhew yn debygol ym mhob rhan o'r wlad, gyda'r rhybudd mewn grym o 11:00 ddydd Sadwrn i 11:00 ddydd Sul.
Maen nhw'n rhybuddio y bydd amodau gyrru yn anoddach na'r arfer ac mae mwy o debygolrwydd o anafiadau os yw pobl yn llithro.
Mae'r rhagolygon hefyd yn awgrymu bod cyfnodau o eira neu eirlaw yn bosib mewn mannau.
Canslo digwyddiadau
Fe wnaeth rhagor o eira ddisgyn dros nos mewn sawl ardal, ac un adeg roedd tua 500 o bobl heb drydan.
Dywedodd D诺r Cymru eu bod nhw wedi cael bron i 8,000 o alwadau ers bore dydd Iau - dros bum gwaith y nifer maen nhw fel arfer yn ei gael mewn cyfnod o'r fath.
Mae ymchwiliad hefyd ar y gweill i honiadau fod ysbyty wedi codi t芒l ar nyrsys i aros mewn llety myfyrwyr yn ystod y tywydd garw diweddar.
Cafodd nifer o gemau chwaraeon dros y penwythnos eu gohirio, gan gynnwys gemau rygbi'r Gleision, y Gweilch a'r Scarlets, gemau p锚l-droed Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam, a g锚m hoci ia Devils Caerdydd.
Cafodd nifer o ddigwyddiadau oedd wedi'u trefnu ar gyfer y penwythnos, gan gynnwys paredau Dydd G诺yl Dewi ac eisteddfodau cylch, hefyd eu gohirio.
Mae Maes Awyr Caerdydd bellach ar agor yn dilyn deuddydd ble cafodd dwsinau o hediadau i mewn ac allan o'r maes awyr eu canslo.
Fe waneth Stagecoach a Cardiff Bus hefyd ailddechrau rhai gwasanaethau yn y de ddydd Sadwrn, wrth i amodau ar y ffyrdd ddechrau gwella.
Ond mae ardaloedd eraill gan gynnwys Powys a Phen Ll欧n wedi cael rhagor o eira, sydd yn golygu bod llawer o'r ffyrdd yno yn parhau i fod ar gau.
Mae rhai o wasanaethau Trenau Arriva Cymru bellach wedi ailddechrau, ond mae rhan fwyaf y trenau yn y Cymoedd yn parhau i fod ar stop.
- Am y diweddara' am y rhybudd tywydd, ewch i .
Daw'r rhybudd diweddaraf yn dilyn trafferthion mawr dros lawer o Gymru ddydd Gwener.
Roedd miloedd o gartrefi heb drydan am gyfnodau, ac fe gafodd hediadau, teithiau tr锚n a theithiau bws eu canslo.
Cafodd apwyntiadau ysbyty eu gohirio mewn sawl ardal hefyd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd mai yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, y syrthiodd y trwch eira mwyaf drwy'r DU dros nos Iau i mewn i fore Gwener - 51cm.
Parc Bryn Bach yn Nhredegar oedd yr ail le oeraf dwy'r DU dros nos ar 么l i'r tymheredd blymio i -5.5C.