Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr actor Trefor Selway wedi marw yn 86 oed
Bu farw'r actor Trefor Selway yn 86 oed.
Roedd yn adnabyddus am ei waith yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys cyfresi Y Palmant Aur, Hafod Haidd a'r ffilm Oed yr Addewid.
Yn Saesneg roedd yn adnabyddus am ffilmiau megis A Mind To Kill a Wild Justice.
Dywedodd ei deulu bod clefyd lymffoma arno, a'i fod wedi marw'n sydyn yn yr ysbyty fore Sul.
'Actor arobryn'
Yn rhoi teyrnged iddo ar Facebook, dywedodd Wynford Ellis Owen, fu'n gweithio gyda Trefor Selway ar gyfres Porc Peic Bach, bod ganddo "feddwl y byd ohono".
"Roedd yn actor radio, teledu a llwyfan arobryn," meddai.
"Fy nghydymdeimlad cywiraf 芒'r teulu oll yn eu colled lem."
Cafodd Trefor Selway ei eni ym Mhandy Tudur, Sir Conwy, a symud i ardal Penygroes ble aeth i'r ysgol, cyn symud ymlaen i Goleg Normal Bangor.
Bu'n athro ac yna'n brifathro yn Eglwysbach, Ysgol Glanadda ym Mangor ac Ysgol Deganwy.
Yr Hamlet Cymraeg cyntaf
Bu'n gweithio ar y radio a'r llwyfan yn y cyfnod yma, cyn troi ei gefn ar ddysgu a chanolbwyntio ar actio yn ei 50au, wrth i S4C ddechrau darlledu.
Ef oedd y cyflwynydd ar rifyn teledu cyntaf Noson Lawen, a bu hefyd yn actor gyda Theatr Bara Caws.
Dywedodd ei deulu mai ef hefyd oedd yr actor cyntaf i chwarae r么l Hamlet yn Gymraeg.
Mae'n gadael ei wraig o bron i 60 mlynedd, Liz, ei ferch Alwen, ei wyres Catrin a'i ddwy or-wyres, Harper ac Olivia.
Bu farw ei fab, Owain, mewn t芒n yn ei gartref yn Eglwysbach yn 2005.