Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Mwy o bwerau ffermio' i Gymru wedi Brexit, meddai Gove
Bydd gan Gymru "fwy o bwerau nag erioed" dros ffermio a'r amgylchedd ar 么l Brexit, yn 么l Ysgrifennydd Amaeth Llywodraeth y DU.
Dywedodd Michael Gove wrth gynhadledd undeb yr NFU yn Birmingham y byddai gan y llywodraethau datganoledig fwy o ddylanwad i siapio polis茂au.
Mynnodd nad oedd gweinidogion yn San Steffan yn ceisio cadw pwerau wedi iddyn nhw ddychwelyd o Frwsel.
Fe wnaeth Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths hefyd ddweud wrth y gynhadledd fod angen sicrhau "na fydd Cymru'n colli'r un ddimai goch o arian" ar 么l gadael yr UE.
'Amgylchiadau unigryw'
Mae gweinidogion Bae Caerdydd wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio "cipio p诺er" dros rai meysydd datganoledig fel ffermio a'r amgylchedd.
Ond dywedodd Mr Gove ei fod eisiau gweld y "lefel uchaf o ddatganoli".
"Tu allan i'r UE bydd gan y sefydliadau datganoledig fwy o bwerau nag erioed o'r blaen i siapio polis茂au amaethyddol i siwtio'u hardaloedd nhw," meddai.
"Fe fyddan nhw'n rhydd i ddyfeisio'u dulliau eu hunain o gymorth ar gyfer ffermwyr a chwsmeriaid eu gwlad nhw."
Mynnodd ei fod yn gweithio 芒 chynrychiolwyr o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar feysydd ble roedd "pryderon cyffredin" fel iechyd anifeiliaid a phlanhigion, a sicrhau gallu ffermwyr i werthu o fewn marchnad fewnol y DU.
Ond y tu hwnt i hynny, meddai, roedd "parchu amgylchiadau unigryw'r gwledydd datganoledig" yn bwysig.
"Mae daearyddiaeth Cymru a'r Alban yn wahanol, mae natur ffermio'n wahanol, mae nifer y ffermwyr sy'n gweithio mewn ardaloedd llai ffafriol yn wahanol, ac mae'r cymorth sydd ei angen yn wahanol," meddai.
"Dylai penderfyniadau penodol am sut mae'r arian yn cael ei wario a faint sy'n cael ei ddarparu ddod gan y sefydliadau datganoledig."
'Ariannu teg'
Yn ddiweddarach fe wnaeth Ms Griffiths ei haraith hithau i'r gynhadledd, gan amlinellu rhai o'i hegwyddorion hi ar gyfer polisi amaeth yn dilyn Brexit.
"Wrth i ni baratoi i adael yr UE, mae'r ddadl dros ddatganoli'n gryfach nag erioed," meddai.
"Mae natur y diwydiant yng Nghymru'n wahanol ac mae'n cymunedau gwledig yn wahanol. Nid oes un ateb all fodloni pawb.
"Rwy'n fwy na pharod cydweithio ar faterion perthnasol 芒 Llywodraeth y DU a'm cyd-weinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
"Ond rhaid i ni fod yn bartneriaid cydradd. Mae hynny'n golygu trafodaeth deg, llywodraethu teg ac yn bwysicach na dim, ariannu teg."