Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Barry Bennell: Hunllef mam cyn-b锚l-droediwr o Bwllheli
Mae mam o Wynedd wedi bod yn disgrifio'i hunllef ar 么l i'w mab ddweud wrthi hi fod y cyn-hyfforddwr p锚l-droed Barry Bennell wedi ei gam-drin yn rhywiol gan gynnwys ei dreisio pan yn fachgen ifanc.
Ar ddiwrnod ble cafodd Bennell ddedfryd o 31 mlynedd am nifer o droseddau rhyw, mae Peta Pollitt o Bwllheli wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf gyda rhaglen Manylu ar 91热爆 Radio Cymru.
Siaradodd am brofiadau erchyll ei mab Matthew Monaghan pan roedd yn chwarae i d卯m ieuenctid Crewe Alexandra.
Mae Mr Monaghan yn honni i Bennell ei dreisio ddwywaith yn ei gartref.
'Byswn i'n gallu ei dorri fo yn ei hanner'
Dywedodd Peta Pollitt: "Ma' just meddwl amdano fo yn troi fy stumog... dwi'n cofio ar un adeg o'n i just isho lladd o.
"Bob tro dwi'n meddwl amdano fo... dwi'n crynu.
"Dwi'm yn deip i ddal dig efo pobl, dwi'n meddwl bo fi reit ddistaw yn fy hun.
"Ond swni'n ei weld o... dwi'n siwr y byswn i'n gallu ei dorri fo yn ei hanner 'efo dwylo fi fy hun."
11 oed oedd Mr Monaghan pan ymunodd 芒 th卯m ieuenctid Crewe Alexandra - The Railway Juniors.
Gan ei fod yn byw mor bell, roedd yn aml yn aros yn nh欧 Bennell ar benwythnosau, ac roedd Ms Pollitt dan yr argraff fod y trefniant yn gweithio'n hwylus.
Dywedodd: "Ar y pryd roedd pawb yn meddwl fod Crewe yn le da. O'dd o'n boblogaidd i'r hogia bach ifanc ac yn enw da.
"O'dd o'n mynd yna bob dydd Sadwrn a weithiau ar y wicend..."
Ond fisoedd yn ddiweddarach, fe ddechreuodd Bennell fynd i 'stafell wely Mr Monaghan gyda'r nos, ac mae'n dweud iddo gael ei gam-drin yn rhywiol.
Mae Mr Monaghan yn dweud ei fod wedi dioddef y cyfan yn dawel ac nad oedd wedi gallu rhannu dim gyda neb - ddim hyd yn oed ei fam.
Ychwanegodd Ms Pollitt: "Ella weithiau fod o 'di mynd yn 'chydig mwy distaw ond neshi'm rili meddwl dim byd ar y pryd.
"Ti'n meddwl... hogyn bach yn ysgol drwy'r wythnos, p锚l-droed ar wicends a Matthew yma ac acw, a pawb yn ffonio isho fo joinio clwb nhw.
"Oni just yn meddwl yn aml mai blinedig o'dd o."
Chwalu'r freuddwyd
Yn 1989 arwyddodd Matthew, yn 14 oed, i Manchester United.
Daeth yn gapten t卯m Cymru dan 15, 16 ac 18 oed a chafodd gytundeb proffesiynol gyda Man Utd yn 16 oed.
Roedd yn rhan o ddosbarth 1993 ac yn chwarae ag enwogion fel Ryan Giggs, David Beckham, Phil a Gary Neville a Paul Scholes.
Ond yn 19 oed daeth y freuddwyd i ben ac roedd ei fam methu deall beth oedd wedi mynd o'i le.
"Cafon ni alwad gan Man Utd ac athon ni lawr - oddan ni'n ista ar un ochr y desg a Mr Alex Ferguson yr ochr arall.
"O'dd o'n rhwbio ei ben ac yn d'eud I can't believe it, he wants to leave, and I've told him he's going to be in the first team.
"O'dd yna petha bach yn digwydd ond neshi ddeud erioed - os ti'm yn hapus tyd adra - ma' yna wbath arall i'w gael bob amser.
"O'dd pawb yn dre yn meddwl dio'm yn gall yn lluchio hwn i ffwrdd.
"Dwi'n cofio Alex Ferguson yn rhoi'r cheque ar un ochr... a deud take it with you Matthew and think seriously about what you are doing and come back."
Achosion llys
- Yn 1994 fe gafodd Barry Bennell ei garcharu yn Florida am bedair blynedd am ymosodiad rhyw ar fachgen 13 oed.
- Daeth cnoc ar ddrws Mr Monaghan gan yr heddlu yn 1997 yn holi os oedd e wedi cael ei gam-drin.
- Yn 1998 fe gafwyd Bennell yn euog eto o 23 cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn chwe phlentyn rhwng naw a 15 oed.
- Ond cafodd 22 cyhuddiad arall yn erbyn yr hyfforddwr, gan gynnwys rhai Mr Monaghan, eu cadw ar y ffeil.
- Yn 2015, roedd Bennell yn y carchar unwaith eto ar 么l pledio'n euog i ymosodiad rhyw ar fachgen arall yn y 1980au.
- Y flwyddyn olynol, daeth nifer o chwaraewyr p锚l-droed ymlaen i rannu eu profiadau o gamdriniaeth gan Bennell - yn eu plith roedd Mr Monaghan.
- Ym mis Chwefror 2018, cafodd Bennell ei ddedfrydu i 31 mlynedd o garchar am gam-drin 12 bachgen rhwng 1979 a 1991.
Am flynyddoedd, fe wnaeth Mr Monaghan gadw ei gyfrinach yn dawel, ac mae Ms Pollitt wedi ei chael yn anodd dygymod 芒 hynny.
Dywedodd: "O'dd gynnai ryw deimlad, fedrai'm deutha chdi be o'dd o... o'n i'n gwybod fod yna rywbeth yn bod.
"Yn diwedd mi ddoth allan bod o'n cymryd cyffuriau a dwi'n cofio pwshio fo lawr ar y couch a deud. Hyn nai ddim rhoi i fyny 'efo a dwi'm yn coelio bo ti'n neud y ffasiwn beth.
"Mae'n rhaid i ti gael help rwan neu dyna fo... a dwi'n cofio fo'n crio a deud Mam dwi angen help."
Euogrwydd
Ar 么l deall bod ei mab wedi ei gam-drin aeth Ms Pollitt drwy nifer o emosiynau: "Guilt... Pam nesh i adael iddo fo fynd?
"O'dd yna rywbeth yn mater 'efo fi yn gadael i hogyn bach ifanc fynd i chwarae p锚l-droed? Pam na fyswn i di deud - ti'm yn cael mynd?
"Dwi di rhoi'r bai arna fi fy hun am flynyddoedd a flynyddoedd a meddwl bo' fi'n fam ddrwg.
"Ti'm yn meddwl am betha felna yn digwydd i dy fab... fysa ti byth. Doedd na'm byd yna i ddangos a dwi di trio meddwl a meddwl be 'swn i 'di gallu ei weld i stopio hyn rhag digwydd ond nesh i'm gweld dim byd."
Yn Llys y Goron Lerpwl yr wythnos ddiwethaf cafwyd Bennell yn euog o 43 o gyhuddiadau yn ymwneud ag ymosodiadau rhyw difrifol yn erbyn 11 chwaraewr ifanc.
Roedd eisoes wedi pledio yn euog i 7 cyhuddiad yn erbyn bachgen arall.
Fe gafodd ei ddedfrydu ddydd Llun i 31 mlynedd dan glo.
Mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw bellach yn ymchwilio i gyhuddiadau eraill yn erbyn Bennell - sydd erbyn hyn yn dioddef o ganser.
Yn 么l Mr Monaghan, mae'n rhan o'r ymchwiliad ac yn ysu i wynebu Bennell yn y llys.
Ond yw hynny'n ddigon i Ms Pollitt: "Neith Matthew byth anghofio a mi 'na i byth anghofio tan y diwrnod dwi'n marw.
"I fi, 'di o ddim yn digon da ei weld o'n marw am fod ganddo ganser a 'di o'm yn ddigon da ei fod yn mynd i'r carchar am ddim ots faint o flynyddoedd.
"Dwi isho Matthew gael gwbod bod [Bennell] wedi mynd i fewn am be na'th o i Matthew a ddim just iddo fo, ond i lot o hogia bach eraill hefyd.
"Dyna be mae o angen rwan - a fi. Just cyfiawnder."
Manylu - Dydd Llun Chwefror 19 am 12:30 ar 91热爆 Radio Cymru.