Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Taclo unigrwydd ac arwahaniad yn flaenoriaeth'
Mae taclo achosion o unigrwydd ac arwahaniad cymdeithasol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, yn 么l y gweinidog dros blant a gofal cymdeithasol, Huw Irranca-Davies.
Dywedodd y Gweinidog fod unigrwydd ac arwahaniad yn un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r Cymry, yn enwedig pobl dros 80 oed.
Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi llunio nifer o gynlluniau i geisio lleihau unigrwydd.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwell cefnogaeth iechyd meddwl, teithiau bws am ddim, nofio am ddim i bobl oedrannus a chynorthwyo pobl h欧n i ddefnyddio'r we.
Yn ychwanegol bydd Llywodraeth Cymru yn:
- Adnabod rhannau o faes gorchwyl Llywodraeth Cymru allai gael eu cyflymu i daclo'r broblem;
- Yn ystod 2018, strategaeth croes-lywodraethol ar unigrwydd ac arwahaniad gyda'r strategaeth derfynol i'w chyhoeddi ym mis Mawrth 2019;
- Comisiynu gwaith i asesu effaith unigrwydd ac arwahaniad ar iechyd a lles ac os yw pobl sy'n dioddef o'r problemau hyn yn gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Huw Irranca Davies: "Mae unigrwydd ac arwahaniad yn fater iechyd cyhoeddus allai effeithio ar lawer o wahanol grwpiau o bobl mewn gwahanol gyfnodau o'u bywydau - ond yn arbennig, mae'n broblem fawr i lawer o bobl h欧n yng Nghymru.
"Mae rhaid iddi fod yn flaenoriaeth i rwystro pobl rhag teimlo'n unig ac arwahan, bydd hyn wedyn yn gwella bywydau pobl a bydd llai o ofyn ar y gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cyhoeddus.
"Dwi'n benderfynol o ddefnyddio'r egni a'r adnoddau o'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu ymateb hirdymor, cydlynol a holistig i unigrwydd ac arwahaniad yng Nghymru," meddai.