Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adnodd Cymraeg newydd i hyrwyddo iaith arwyddo
Helpu plant ifanc i ddysgu iaith arwyddo yw nod adnodd newydd fydd yn cael ei lansio yng Nghylch Meithrin y Garnedd ym Mangor ddydd Mercher.
Y Mudiad Meithrin ar y cyd a Chanolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor sydd wedi datblygu Dwylo'n Dweud, sy'n cynnwys cyfres o glipiau byr sy'n canolbwyntio ar un gair bob wythnos.
Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o'r arwyddion ac iaith BSL (British Sign Language), yn ogystal ag annog teuluoedd ifanc ac eraill i'w ddefnyddio gyda'u plant ac ysgogi diddordeb er mwyn cynyddu nifer yr unigolion sydd yn medru defnyddio iaith BSL.
Dywedodd Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin bod hyn yn ymateb i fwlch yn y ddarpariaeth sydd ar gael: "Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod dros 3,200 o blant byddar yng Nghymru.
'Hawdd a hwyliog'
"Tristwch y sefyllfa'n bresennol yw bod oddeutu 85% o'r plant yna ddim yn cael unrhyw fath o ddarpariaeth addysgol arbennig ar eu cyfer nhw.
"Felly mae prosiect fel Dwylo'n Dweud gobeithio'n gwneud rhywfaint o waith i unioni hynny, gan hyrwyddo iaith y gymuned fyddar mewn ffordd sydd yn hawdd, yn hwyliog, ac a fydd o ddefnydd i rieni ac yn wir i staff yn y cylchoedd meithrin, y cylchoedd Ti a Fi yr ysgolion a thu hwnt."
"Mawredd y cynllun yma ydy'r ffaith ei fod o'n ffrwyth cydweithio rhwng cymaint o wahanol sefydliadau gwahanol, yn brosiect arloesol sydd yn ymateb i angen sydd yn dod o lawr gwlad.
"Mae'n heriol tu hwnt i sicrhau mynediad i blant, beth bynnag fo'u anghenion dysgu nhw i ysgolion, ac mae cylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a fi yr un fath, felly mae defnyddio technoleg yn y fath fodd yn caniat谩u i ni gyrraedd pobl na fydden ni o bosib yn eu cyrraedd fel arall."
Dywedodd Delyth Murphy, Pennaeth Canolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor ei bod yn "bleser mawr" bod yn rhan o'r prosiect.
"Credwn yn gryf y dylid gwrando ar sylwadau rhai sy'n mynychu gwahanol weithgareddau yn y Brifysgol ac, o ganlyniad i adborth wedi'n cynhadledd boblogaidd Clust i Wrando yn 2017 yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu iaith arwyddo i blant ifanc, mae'r clipiau fideo hyn yn ffrwyth partneriaeth lwyddiannus gyda'r Mudiad Meithrin."
Un sy'n croesawu'r cynllun yw Mari Evans, sy'n byw ger Llannerch-y-medd ar Ynys M么n.
Mae ei mab, Dylan, yn drwm iawn ei glyw, ac mae'n gwisgo cymorth clyw, ond hefyd yn deall iaith arwyddion.
"Mae yna adegau lle dio ddim yn gwisgo'r hearing aids, neu os da ni mewn lle ofnadwy o brysur, da ni angen y seins iddo fo gael dallt ac iddo fo gael seinio yn 么l i ni hefyd."
'Syniad gwych'
Ac mae staff ysgol feithrin Llangefni wedi dysgu iaith arwyddo i helpu Dylan: "Maen nhw wedi bod wrthi efo fo. Mae hi'n brysur iawn yn y fan yna.
"Mewn stafell llawn o blant bach, mae o angen mymryn bach o help weithiau.
"Maen nhw'n gret efo fo," meddai.
Mae Mari felly'n croesawu adnodd Dwylo'n Dweud: "Dwi'n meddwl ei fod o'n ardderchog.
"Fedra'i weld, yn symud ymlaen, y bydd plant bach eraill a ffrindiau'n medru seinio efo'i gilydd. Mae o'n help mawr efo rhywun sy'n fyddar."