Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwaharddiad parhaol o gr诺p Plaid Cymru i Neil McEvoy
Mae'r Aelod Cynulliad Neil McEvoy wedi cael ei wahardd o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad yn barhaol.
Fe gafodd yr AC dros Ganol De Cymru ei wahardd dros dro ym Mawrth 2017 wedi i dribiwnlys ei gael yn euog o ymddygiad oedd yn bwlio aelod o staff Cyngor Caerdydd.
Cafodd ei adfer i'w safle cyn iddo gael ei wahardd eto am yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fel "ymddygiad oedd yn tanseilio undod a chyfanrwydd y blaid".
Cafodd Mr McEvoy wybod am y gwaharddiad parhaol mewn e-bost nos Fawrth.
Mae Mr McEvoy wedi ymateb drwy ddweud ei fod yn "siomedig fy mod wedi cael fy ngorfodi allan o gr诺p Plaid Cymru."
Yn gynharach yn y dydd dywedodd Mr McEvoy y byddai apelio ei waharddiad mewn cyfarfod o bwyllgor cenedlaethol Plaid Cymru ym mis Mawrth.
Mae Comisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd yn ystyried honiadau yn ymwneud ag ymddygiad Neil McEvoy.
'Difrodi cyson a bwriadol'
Dywedodd llefarydd ar ran grwp Cynulliad Plaid Cymru: "Mae grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad wedi penderfynu gwahardd Neil McEvoy o'r grwp yn barhaol. Roedd y penderfyniad yn unfrydol.
"Mae datganiad Neil McEvoy heddiw yn llawn gwallau. Yn gyntaf mae'n gwneud honiadau anghywir am y rhesymau am ei waharddiad o'r grwp Cynulliad. Fel y dywedwyd ar y pryd fe gafodd Neil McEvoy ei wahardd am dorri rheolau a Chod Ymddygiad y Grwp drwy ymddygiad annerbyniol.
"Yn ail fe wnaeth datganiad cyhoeddus Neil McEvoy unwaith eto gynnwys anwireddau am y modd y mae Grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad yn gweithredu. Mae sylwadau o'r fath yn difwyno enw da ei gydweithwyr ac yn tanlinellu ffuantrwydd dyhead honedig Mr McEvoy i ddychwelyd i'r grwp.
"Yn y cyswllt yma mae Mr McEvoy yn cael ei wahardd oherwydd methiant ymddiriedaeth na ellir ei adfer. Mae ei ymddygiad parhaus wedi gadael ei gyd-ACau yn teimlo wedi eu tanseilio a'u digalonni.
"Mae teyrngarwch aelodau Plaid Cymru i bobl Cymru yn gyntaf. Ni fydd ein sylw at ein gwaith o wasanaethu pobl hyd eithaf ein gallu yn cael ei dynnu gan ddifrodi cyson a bwriadol fel hyn."
'Siom'
Mae Mr McEvoy wedi ymateb drwy ryddhau datganiad gan ddweud:
"Siom o'r mwyaf yw fy mod wedi cael fy ngorfodi allan o gr诺p Plaid Cymru.
"Cefais fy ethol i fod yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru gyda miloedd o bleidleisiau gan bobl oedd am imi wneud gwleidyddiaeth nid yn 么l yr arfer.
"Byddaf yn parhau i gynrychioli'r bobl hynny sydd wedi cael eu gadael ar 么l ac sydd wedi rhoi i fyny ar wleidyddion.
"Nid ydym i gyd yr un fath. Mae yna bobl sydd wir yn malio. Cefais fy magu ar yst芒d cyngor yng Nghaerdydd a llwyddo i gyrraedd ein Senedd genedlaethol. Gobeithio y bydd hynny'n ysbrydoli pobl i weld bod unrhyw beth yn bosibl.
"Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud 芒 syniadau ond hefyd am bersonoliaethau. Nid yw pawb yn gallu cyd-weld trwy'r amser ond mae angen inni edrych ar y darlun ehangach.
"Mae Cymru yn wlad arbennig. Mae hi angen llywodraeth arbennig a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau hynny."