Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y llythyru rhwng Cymru a Ffrainc ddaeth 芒 chariadon at ei gilydd
Oes gennych chi ffrind llythyru, neu 'pen pal'? Mae 'na hanner canrif ers i ferch o Gymru a merch o Ffrainc ddechrau sgwennu at ei gilydd. Mae stori Meryl a Denise yn un i gynhesu'r galon, yn llythrennol...
Bu Meryl Richardson, sydd bellach yn byw yng Nghaerfyrddin, yn s么n ar raglen Aled Hughes ar 91热爆 Radio Cymru sut y dechreuodd hi lythyru gyda'i ffrind yn Ffrainc yn 1968.
Mae hi'n egluro sut y maen nhw yn parhau yn ffrindiau pennaf, ac erbyn hyn, yn rhannu wyres...
O'n i'n y Chweched isa' yn Ysgol Sir Ffestiniog, a newidiodd i fod yn ysgol y Moelwyn, pan ddaeth y cyfle i ysgrifennu at ferch yn Ffrainc o'r enw Denise.
Ar 么l ysgrifennu ati, a dod i'w nabod hi, es i draw i Ffrainc adeg Pasg 1968 gan aros gyda'r teulu am dair wythnos. Fe ddoth hi n么l wedyn i aros efo fy nheulu i yn Llan Ffestinog am dair wythnos. Roedd hyn 50 o flynyddoedd yn 么l.
Roedd y profiad yn un mor dda fe wnaethon ni sgrifennu at ein gilydd dros y misoedd i ddod ac fe wnes i ail ymweld 芒 nhw y Pasg canlynol a daeth hi n么l aton ni eto yr haf hwnnw.
Mae'r berthynas wedi mynd ymlaen ers hynny. Dros y blynyddoedd, roeddwn i, fy ng诺r a'r plant yn mynd ar ein gwyliau i Ffrainc i gampio, ac oeddan ni'n ymweld 芒'i theulu hi yn y fan honno.
Bywydau wedi plethu
Y cyfarfod cynta' diddorol rhwng ein plant ni, roedd fy mab i Ian yn bedair oed a'i merch hi, Julia, yn bump oed. Wrth gwrs, chwara' plant oeddan nhw bryd hynny. Ond mae'r hanes mor ddiddorol, achos pedair blynedd yn 么l yn 2014 fe briododd ei merch hi fy mab i, ac yn 2016 'dan ni wedi dod i rannu wyres fach, Nansi. Denise yn Ffrainc a finna yng Nghymru.
Rydw i a Denise dal mewn cysylltiad cyson, erbyn hyn yn ebostio ac yn gwneud lot o Facetime. Mae ein bywydau ni wedi plethu fewn i'w gilydd, mae gynna' i ffrind am oes, a gychwynnodd pan o'n i'n 16 oed. A dwi ddim yn si诺r iawn os oes gymaint o ffrindiau llythyru yn parhau dros cyhyd o amser.
Peth arall sy' wedi dod o'r ysgrifennu yma oedd fy mod i wedi mynd ' mlaen i wneud gyrfa fel athrawes Ffrangeg. O'n i'n gallu defnyddio'r sgiliau o ysgrifennu a darganfod pethau am Ffrainc wrth ysgrifennu ati hi a chadw mewn cysylltiad. Does 'na ddim byd ond manteision wedi digwydd i mi a'm mywyd, wrth ddechrau ysgrifennu ati hi pan o'n i'n ifanc yn yr ysgol.
Mae fy wyres i nawr yn clywed tair iaith wrth dyfu fyny yng Nghaerdydd. Mae fy mab a fi yn siarad 芒 hi yn Gymraeg, mae ei mam hi, Julia yn siarad 芒 hi'n hollol yn Ffrangeg a mae'n mynd i ysgol feithrin lle mae 'na Saesneg i'w glywed - felly mae gan y ferch fach dair iaith.
Dwi a Denise yn ddim byd tebyg, ond dan ni'n gwerthfawrogi yr un petha' mewn bywyd, mae gynnon ni barch at ein gilydd. 'Dan ni wedi cefnogi ein gilydd trwy betha' anodd ac wedi dod yn ffrindia' oes.