Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datgelu hwb teithio £180m ar gyfer canol Caerdydd
Mae cynlluniau ar gyfer hwb teithio newydd gwerth £180m o gwmpas gorsaf Caerdydd Canolog, fydd yn cynnwys Metro De Cymru, wedi eu datgelu.
Byddai'r orsaf bresennol yn cael ei hailwampio a'i hymestyn er mwyn ymdopi gyda'r miliynau o deithwyr ychwanegol sydd i'w disgwyl dros y 25 mlynedd nesaf.
Fe fyddai'r cynllun hefyd yn cynnwys gorsafoedd Metro a bysus, yn ychwanegol at yr orsaf fysus newydd sydd eisoes wedi'i gynllunio.
Mae disgwyl y byddai angen £40m o gyllid sector breifat o'r fargen ddinesig, yn ogystal â chymorth gan lywodraethau Cymru a'r DU, i'w ariannu.
Swyddi ychwanegol
Yn ogystal â moderneiddio'r orsaf mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gosod lle i 1,000 o feiciau, ac adeiladu maes parcio aml-lawr ar safle'r un presennol.
Mae bron i chwarter y teithwyr trên yng Nghymru yn defnyddio gorsaf Caerdydd Canolog bellach, ac yn ôl amcangyfrifon fe allai'r orsaf fod yn delio â 22 miliwn o deithwyr erbyn 2023.
Y gred yw y gallai 30,000 o swyddi gael eu creu yng nghanol y brifddinas dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, gan olygu bod rhagor o bobl yn teithio i Gaerdydd bob dydd.
Er bod cabinet Dinas Ranbarth Caerdydd wedi cytuno mewn egwyddor i ariannu'r datblygiad newydd fe allai gymryd hyd at 18 mis i gwblhau'r achos busnes.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig pwysleisio fod hwn yn brosiect fydd yn dod a budd i'r rhanbarth cyfan, yn enwedig os 'dyn ni'n gweld gwasanaeth 15-munud newydd rhwng prif linellau'r Cymoedd a Chaerdydd dan gynlluniau Metro De Cymru," meddai'r cynghorydd Andrew Morgan, sy'n cadeirio'r cabinet.
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas fod angen "sicrhau fod Caerdydd Canolog yn gallu ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y teithwyr".
Daw'r cyhoeddiad am hwb teithio newydd o gwmpas yr orsaf drenau wrth i gynlluniau i godi gorsaf fysus newydd yng nghanol y brifddinas hefyd symud yn eu blaen.