Blwyddyn anodd Gillian Elisa

Mae hi'n un o actorion amlyca' Cymru ac ar hyn o bryd mae hi'n ymddangos fel Iona Harris yn y gyfres ddrama Craith, nos Sul ar S4C.

Yma, mae Gillian Elisa yn sgwrsio am waith a bywyd a gadael blwyddyn anodd ar 么l...

Ffynhonnell y llun, Gillian Elisa

Fe ges i ddamwain car ym mis Medi y llynedd. Fe aeth bws mewn i gefn fy nghar i ar yr M4 yn ardal Swindon, ac o'n i'n yr ysbyty am wythnos. Fe golles i Tincs y ci yn y ddamwain, o'n i'n torri nghalon.

O'n i'n ffilmio Craith ar y pryd, ac oedd Tincs yn dod 'da fi i'r gwaith, oedd pawb wedi dwli arni. O'dd pawb yn gweld ei heisiau hi wedyn pan es i n么l hebddi hi i'r lleoliad ffilmio, ar 么l y ddamwain.

Ond roedd rhaid bwrw mla'n. Es i n么l i ffilmio ac o'n i'n lwcus iawn, fe wnaeth cwmni Craith ddishgwl ar y'n 么l i yn arbennig o dda.

Roedd y gwaith yn dipyn o sialens wedyn, o'n i mor ypset ar 么l beth oedd wedi digwydd, yn enwedig ar 么l colli'r ci bach. Ond roedd pawb yn Craith / Hidden (cwmni Severn Screen) yn sbeshal ac mae'n rhaid cario 'mlaen 'da bywyd.

Golles i mrawd hefyd ym mis Tachwedd, ac roedd hyn yn ergyd bersonol arall yng nghanol y ffilmo, felly roedd diwedd 2017 yn gyfnod anodd.

'Mynd n么l i ngwreiddiau'

Pan ddechreuon ni ffilmio Craith, o'n i ddim yn gwybod ble oedd y cymeriad yn mynd i fynd i ddweud y gwir ac roedd e'n eitha cynhyrfus i dderbyn gweddill y sgriptiau. Wedyn sylweddolais i fod y r么l yn dipyn yn fwy nag o'n i wedi ei ddisgwyl.

Roedd mwy a mwy yn cael ei ddatgelu fel o'n i'n mynd ymlaen ac oedd hynny yn fy nghadw i'n ffresh. Roedd t卯m arbennig iawn yn gweithio arno.

O'dd chwarae'r rhan yma yn her mowr iawn i fi, achos sai 'di chware menyw mor gas, mor ffiaidd o'r blaen. Ond mae'n braf cael mynd n么l i'r math 'ma o actio.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mae Gillian Elisa yn chwarae rhan Iona Harris yn Craith ar S4C

Dyw lot o bobl ddim yn disgwyl i fi wneud rhannau tywyll, dwfn fel hyn, ond rhannau difrifol o'n i'n actio yn wreiddiol. Dyna fy ngwreiddyn i a dyma lle ydw i wir yn mwynhau. Digwydd mynd mewn i wneud comedi ac adloniant ysgafn wnes i.

Rwy'n cael cic mas o weithio gydag actorion ifanc, proffesiynol, mor dalentog. Fe wnes i fwynhau ffilmio Bang yn fawr iawn, oedd hwnna yn challenge hefyd ac fe ges i ymateb arbennig am y gwaith.

O'n i'n sylweddoli pa mor arbennig o dda yw'r actorion ifanc yma, mae ganddyn nhw rhyw hyder cyfforddus ac oedd 'na barch ddwy ffordd. O'n i ddim yn disgwyl hynny, ond oedd y cyd-weithio yn wych.

Ffynhonnell y llun, S4C

Fe fues i'n actio rhan y Grandma yn y sioe Billy Elliot yn y West End am bum mlynedd tan Ebrill 2016. O'n i'n 'neud wyth sioe yr wythnos, ac o'n i mewn zone ond o'n i'n barod i symud 'mlaen wedyn ac i bortreadu cymeriadau newydd a chael siawns i ddangos mwy o beth alla i 'neud.

'Wi'n dal i fyw yn Llundain, mae'n ddinas vibrant iawn a 'wi'n cael cyfle nawr i fynd i weld lot o gynyrchiadau. Ond mae nghalon i wrth gwrs n么l yng Nghymru.

'Wi'n anghofio ambell waith bo' fi 'mlaen yn oedran, fi'n meddwl mod i dal yn 35 oed! Ma' rhaid i fi gofio ble y'f fi, ond tra bod yr iechyd 'da fi, wn芒i gario 'mlaen. 'Wi'n dal i joio 'neud clyweliadau, ma' nhw'n dy gadw di ar flaen dy draed.

Fi wedi dysgu o'r flwyddyn ddiwetha' i beidio trio plesio pawb, mae profiadau yn gallu dy drist谩u di ond hefyd dy wneud di'n ddiolchgar am bethau. Cadw'r egni yw'r gyfrinach a rhoi'r egni iawn i'r part 'wi'n chwarae.

Craith, S4C, Nos Sul, 21:00

Hefyd o ddiddordeb: