Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
AC newydd Mandy Jones 'ddim eisiau bod yng ngrŵp UKIP'
Mae'r AC newydd, Mandy Jones wedi dweud nad yw hi eisiau bod yng ngrŵp UKIP yn y Cynulliad, gan honni fod rhai aelodau wedi ei "bwlio".
Dywedodd grŵp UKIP yn y Cynulliad ddydd Llun na fyddan nhw'n gadael iddi ymuno â nhw, a hynny oherwydd y staff mae hi wedi dewis eu cyflogi.
Daeth cadarnhad fis Rhagfyr y byddai Mandy Jones yn cymryd lle Nathan Gill yn y Senedd, wedi iddo gyhoeddi y byddai'n camu o'r neilltu.
Roedd Mr Gill wedi ei ethol dan faner UKIP yn 2016 cyn troi'n aelod annibynnol, gan olygu mai Ms Jones, oedd yn ail ar restr y blaid yn rhanbarth y gogledd, fyddai'n ei olynu.
Bu Mr Gill a'r arweinydd presennol Neil Hamilton yn ymgyrchu am arweinyddiaeth y grŵp yn dilyn ethol y saith AC UKIP gwreiddiol - pum aelod sydd gan y grŵp erbyn hyn.
'Hollol anghywir'
Dywedodd Ms Jones ei bod wedi cyflogi staff Nathan Gill oherwydd yr awydd i fwrw 'mlaen â'i gwaith yn syth, ond ei bod wedyn wedi mynychu cyfarfod pan roddodd aelodau eraill UKIP bwysau arni i gael eu gwared.
Yr unig berson o'r naw oedd yn y cyfarfod wnaeth ddim ei beirniadu, meddai, oedd Caroline Jones AC, ond ar ôl awr a hanner, dywedodd ei bod wedi cael ei hel allan gan Gareth Bennett AC i "wneud penderfyniad".
Gofynnodd am ddwy awr i gasglu ei meddyliau a dychwelyd i'w fflat, ac wedi i'r amser hynny fynd heibio, wnaeth hi ddim ateb ei ffôn i'r aelodau eraill, gan yn ei geiriau hi, "fod fy mhen i ar chwâl".
Ychwanegodd fod yr awyrgylch o fewn grŵp UKIP yn un "wenwynig" a'u bod wedi ei "bwlio" yn y cyfarfod.
Gwrthododd Mr Hamilton honiadau ddydd Mercher bod Ms Jones wedi ei gorfodi i wneud penderfyniad o fewn dwy awr, i gael gwared â'i staff neu beidio ag eistedd fel aelod UKIP.
Dywedodd Mr Hamilton wrth raglen Good Morning Wales fod yr honiadau "yn hollol anghywir".
Ychwanegodd: "Hi roddodd ddwy awr i'w hun mewn gwirionedd. Cawsom gyfarfod grŵp ddydd Llun i drafod hyn, ac mi barodd awr a hanner.
"Am hanner awr wedi chwech, dywedodd hi, 'rhowch ddwy awr imi wneud fy meddwl i fyny'. Ni chlywsom unrhyw beth wedi hynny."
"Am naw o'r gloch y bore canlynol roedd Llywydd y Cynulliad eisiau gwybod beth oedd ei phenderfyniad hi, at ddibenion seddau yn y siambr."
Ychwanegodd Gareth Bennett AC: "Yn amlwg does ganddi ddim synnwyr gwleidyddol na synnwyr cyffredin."
Roedd UKIP wedi honni ddydd Mawrth fod Ms Jones wedi dewis cyflogi aelodau o bleidiau eraill, neu rai oedd wedi ymgyrchu yn erbyn y blaid yn ddiweddar.
Dywedodd Mr Hamilton: "Bu'r ddau weithiwr yn ymgyrchu yn erbyn UKIP mewn etholiadau, a dywedodd y ddau ohonynt bethau annymunol a sarhaus iawn amdanaf ac aelodau eraill yn y grŵp yn gyhoeddus.
"Rwy'n gobeithio'n fawr mai cytundebau dros dro sydd gan y gweithwyr yma, ac y bydd yr aelod yn gweld synnwyr."
Dywedodd un o aelodau staff Ms Jones, a chyn-gynorthwyydd Nathan Gill, LlÅ·r Powell, fod llawer o bobl yn gweithio i ACau o bleidiau nad ydynt yn weithgar ynddyn nhw.
Dywedodd ei fod wedi bod yn aelod o'r Ceidwadwyr "yn y gorffennol".
"Mae llawer o bobl yn UKIP wedi bod yn aelodau o bleidiau eraill," meddai.
Honnodd Mr Powell mai ffordd Mr Hamilton o ddial ar Mr Gill oedd y rheswm tu ôl i'r anghydfod diweddara: "Dyna'r unig reswm y gallaf ei weld."