Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dirywiad cyflwr Menai'r crwban yn 'trist谩u' s诺 m么r M么n
Mae staff s诺 m么r wnaeth ofalu am grwban prin ddaeth i'r lan ar Ynys M么n yn 2016 wedi eu "trist谩u'n arw" o glywed fod ei chyflwr wedi dirywio.
Cafodd y crwban m么r pendew Olive Ridley ei henwi'n Menai gan staff ar 么l ei darganfod ar lan afon Menai yn Tachwedd 2016.
Haf y llynedd, cafodd y crwban ei hedfan i Gran Canaria yn y gobaith y byddai'n gwella'n gynt mewn awyrgylch gynhesach.
Ond mae S诺 M么r Ynys M么n wedi dweud ar Facebook nad yw pethau'n edrych yn dda i Menai erbyn hyn.
'Rhy hwyr i'w hachub'
Dyma oedd y tro cyntaf ers i gofnodion gychwyn dros 200 mlynedd yn 么l i grwban o'r fath gael ei darganfod ym Mhrydain.
Dywedodd neges ar dudalen y s诺 m么r: "Rydyn ni wedi'n trist谩u'n arw i glywed bod cyflwr Menai wedi dirywio'n sydyn dros y ddwy i dair wythnos diwethaf, ac rydyn ni'n ofni ei bod hi'n rhy hwyr i'w hachub hi."
Ychwanegodd y s诺: "Fe hedfanon ni Menai i Gran Canaria ddiwedd mis Mehefin y llynedd er mwyn ei pharatoi ar gyfer rhyddhau, ac iddi ddod yn gyfarwydd ag amgylchedd cynhesach.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod ei chyflwr wedi gwaethygu'n raddol ers iddi gyrraedd.
"Ers i ni sylweddoli hyn, rydyn ni wedi bod yn chwilio'n galed am rywle mwy addas i'w rhoi hi."
Mae crwbanod o'r fath i'w cael fel arfer mewn moroedd cynnes a throfannol ger Mecsico a de'r UDA, a dydyn nhw ddim fel arfer yn goroesi mewn dyfroedd oerach o gwmpas Cymru.