Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nathan Gill yn ymddiswyddo fel AC
Mae Nathan Gill wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddiswyddo fel AC.
Roedd Mr Gill wedi ei ethol ar y rhestr ranbarthol i gynrychioli gogledd Cymru ar ran UKIP.
Yn dilyn ei ymddiswyddiad mae wedi trydar mai Mandy Jones fydd yn cymryd ei le yn y Cynulliad.
Dywedodd mewn datganiad ei fod yn "rhyddhad" a'i fod yn teimlo'n "drist" o fod yn sefyll lawr fel AC ar gyfer gogledd Cymru.
Mewn datganiad ar ei dudalen Facebook, dywedodd Mr Gill: "Fe wnes i'r penderfyniad dro yn ôl yn seiliedig ar egwyddor, nid pwysau gan gyfoedion.
"Fe wnes i ymgynghori gyda'r ymgeisydd rhestr nesaf, ac fe ofynnodd i mi oedi cyn ymddiswyddo er mwyn iddi hi gael mwy o amser i baratoi. Fe gytunais mai dyma'r peth iawn i wneud.
"Mae Mandy Jones nawr yn barod i ymgymryd â'r rôl, ac rwy'n hyderus y bydd... yn gwneud job ardderchog i bobl gogledd Cymru.
"Gyda'r wlad yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n glir mai Brexit yw'r mater pwysicaf sy'n wynebu Cymru. Rwy'n teimlo ei bod yn iawn i mi ganolbwyntio ar gwblhau fy nhymor fel Aelod Senedd Ewrop a gwneud fy rhan o gael y cytundeb gorau i'r wlad.
"Nid yw hwn, fel y mae rhai wedi honni'n ddi-sail, yn benderfyniad sy'n golygu elw i mi yn ariannol."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Bythefnos yn ôl fe wnaeth AC Llafur, Lee Waters herio Mr Gill ar wefan Twitter am sibrydion y byddai'n gadael y Cynulliad, ond gwadu hynny wnaeth Mr Gill ar y pryd.
Ymateb
Eisoes mae rhai gwleidyddion wedi ymateb i ymddiswyddiad Mr Gill. Ar Twitter dywedodd Simon Thomas o Blaid Cymru: "Cadarnhad bod Nathan Gill wedi ymddiswyddo o'r Cynulliad fel y gwnes i ac eraill ragweld.
"Wfft i addewidion UKIP i gymryd ein senedd genedlaethol o ddifri. Prin ei fod yn troi fyny, a nawr mae'r gadael Cymru er mwyn taliad Ewropeaidd."
Er i Mr Gill gael ei ethol fel AC rhanbarthol dros UKIP, fe adawodd y blaid yn dilyn ffrae fewnol a welodd Neil Hamilton yn cael ei benodi'n arweinydd y blaid yng Nghymru.
Ers hynny mae Mr Gill wedi bod yn y Senedd fel AC annibynnol.