Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ystyried parthau di-alcohol yn Stadiwm Principality
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips wedi dweud y byddan nhw'n ystyried sefydlu parthau di-alcohol ar gyfer gemau rhyngwladol yn y dyfodol.
Cafwyd cwynion yn ystod gemau'r hydref am gefnogwyr meddw yn Stadiwm Principality yn camymddwyn, gan gynnwys honiadau fod dyn anabl wedi'i sarhau.
Ar y pryd dywedodd yr Undeb bod dyletswydd gyfreithiol arnyn nhw i beidio gweini alcohol i bobl feddw yn y stadiwm.
Ddydd Mercher dywedodd Mr Phillips y bydd y corff rheoli yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno newidiadau erbyn hydref 2018.
'Angen asesu'
Mae disgwyl i'r Undeb asesu'r sefyllfa yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng ngwanwyn 2018 cyn gwneud penderfyniad terfynol ar gyflwyno'r parthau ai peidio.
"Os oes pethau allwn ni eu gwneud i wella'r profiad i bobl, fe wnawn ni dreialu hynny yn ystod hydref y flwyddyn nesaf," meddai Mr Phillips.
Ychwanegodd fodd bynnag y byddai parthau di-alcohol yn anodd eu gweithredu am nad oedd hi'n bosib "rheoli beth mae pobl yn ei wneud cyn dod i'r stadiwm".
"Os oes gennych chi docyn 'parth di-alcohol' ac mae parti stag yn troi lan sydd ddim yn yfed yn y stadiwm achos maen nhw wedi cael digon yn barod, fyddai hynny ddim yn brofiad gr锚t i'r cefnogwr," meddai.
"Felly mae'n rhaid i ni wneud pethau mewn ffordd glyfar."
Dywedodd y prif weithredwr hefyd fod pob un o ranbarthau Cymru hefyd wedi mynegi diddordeb yn arwyddo'r asgellwr George North pan fydd yn gadael Northampton ar ddiwedd y tymor.
Y Scarlets fydd 芒'r dewis cyntaf i'w arwyddo gan mai nhw yw ei gyn-ranbarth, a hynny wedi i North gyhoeddi y bydd yn dychwelyd i Gymru.
Mynnodd Mr Phillips hefyd na fyddai prif hyfforddwr y t卯m cenedlaethol, Warren Gatland yn gadael ei swydd cyn Cwpan y Byd 2019, er gwaethaf s么n fod Northampton 芒 diddordeb ei benodi.
Cadarnhaodd hefyd fod Cymru'n gobeithio trefnu g锚m yn UDA ym mis Mehefin 2018, cyn iddyn nhw deithio i'r Ariannin ar gyfer dwy g锚m brawf.