Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Papur newydd y Ceredigion Herald yn dod i ben
Mae papur newydd dwyieithog y Ceredigion Herald yn dod i ben, lai na dwy flynedd ers iddo gychwyn.
Dywedodd y cyhoeddwyr, gr诺p Herald Newspapers, y byddai'r papur yn parhau fel gwefan.
Ond maen nhw'n mynnu na fydd effaith ar eu tri phapur arall yn Sir Benfro, Sir G芒r a Llanelli.
Dywedodd y golygydd mai'r papur yng Ngheredigion - sy'n gwerthu 3,000 copi'r wythnos - oedd y gwannaf o'u cyhoeddiadau.
'Dim colli swyddi'
Y Pembrokeshire Herald oedd papur newydd cyntaf y gr诺p, a gychwynnodd yn 2013.
Cafodd fersiynau yn Sir G芒r a Llanelli eu cyhoeddi gyntaf yn 2015, gyda'r papur yng Ngheredigion yn cychwyn ym mis Ebrill 2016.
Ond cyfrol rhif 90 o'r papur hwnnw - ddaeth allan ddydd Gwener - fydd yr olaf i gael ei argraffu.
Yn 么l Tom Sinclair, golygydd y papurau, roedd ffigyrau gwerthiant y papur yn is na'r cyhoeddiadau eraill.
Dywedodd bod 13,500 copi o bapur Sir Benfro yn cael eu dosbarthu'n wythnosol, gyda 6,500 ohonyn nhw'n cael eu gwerthu a'r gweddill yn cael eu rhoi am ddim.
Mae 6,000 copi o'r papur yn Sir G芒r a 5,000 copi o fersiwn Llanelli yn cael eu gwerthu pob wythnos.
Dywedodd Mr Sinclair hefyd na fydd swyddi'n cael eu colli a bod "dim yn bod" ar y papurau eraill.
Ychwanegodd y byddai'r cwmni'n parhau i ddefnyddio'r Gymraeg.
Yn gynharach eleni, roedd yn rhaid i Mr Sinclair dalu 拢3,650 mewn dirwyon ac iawndal am gyhoeddi erthygl gyda gwybodaeth allai fod wedi datgelu pwy oedd y person gafodd eu targedu mewn ymosodiad rhyw.
Mae'n apelio'r penderfyniad.