Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sargeant: Llafur ddim am ymchwilio i honiadau menywod
Mae'r blaid Lafur wedi cadarnhau na fyddan nhw'n ymchwilio i honiadau o ymddygiad amhriodol gan Carl Sargeant tuag at fenywod.
Mewn llythyr i gyfreithiwr teulu'r cyn-weinidog, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Llafur Iain McNicol fod yr ymchwiliad wedi cau.
Cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ar 3 Tachwedd, wedi i'r Prif Weinidog glywed am yr honiadau yn erbyn AC Alun a Glannau Dyfrdwy.
Dywedodd Mr McNicol fod Llafur wedi derbyn y cwyn cychwynnol ar yr un diwrnod, a'u bod "yn aros am y datganiad ffurfiol i anfon at Mr Sargeant pan ddaeth y newyddion trychinebus am ei farwolaeth".
'Ddim yn bosib'
Ychwanegodd: "Dyw hi ddim yn bosib parhau gyda'r ymchwiliad dan ein gweithdrefnau ni bellach, ac felly mae'r blaid Lafur yn ystyried yr ymchwiliad ar ben."
Dywedodd Mr McNicol fod y blaid wedi dilyn y camau cywir yr holl ffordd, ac nad oedden nhw wedi "cymryd unrhyw beth yn ganiataol am unrhywun".
Mynegodd ei gydymdeimlad 芒 theulu a ffrindiau Mr Sargeant, gan addo y byddai'r blaid yn cydweithio'n llwyr 芒 chwest y crwner.
Ychwanegodd fod Llafur "yn gwrthod unrhyw gyfrifoldeb dros gostau yn y mater hwn".
Roedd Mr Sargeant wedi'i gyhuddo o "sylw dieisiau, teimlo neu gyffwrdd amhriodol", ond dywedodd ei deulu nad oedd yn gwybod unrhyw fanylion pellach am yr honiadau pan gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd.
Dywedodd ffrind i Carl Sargeant fod y llythyr yn dangos fod yr achos yn ei erbyn wedi cael ei "daflu at ei gilydd".
Yn 么l Carwyn Jones roedd wedi clywed honiadau am "nifer o ddigwyddiadau" yn yr wythnos yn arwain at ddiswyddo Mr Sargeant.
Fe wnaeth un o ymgynghorwyr arbennig y Prif Weinidog siarad 芒'r menywod dan sylw cyn i'r mater gael ei gyfeirio at brif swyddfa'r blaid Lafur yn Llundain er mwyn iddyn nhw gynnal ymchwiliad.