'Llywodraeth angen bod yn gliriach ar gyllid ysgolion'

Disgrifiad o'r llun, Kirsty Williams yw Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru

Mae pwyllgor o ACau wedi dweud fod diffyg tryloywder yn y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynnydd i'r gyllideb ar gyfer ysgolion.

Yn wreiddiol roedd y cynlluniau ar gyfer 2018-19 yn dweud y byddai gostyngiad o 拢60.3m yn y cyllid oedd ar gael.

Ond yn y gyllideb derfynol dywedodd y llywodraeth y byddai 拢62m yn "ychwanegol".

Fe wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ganfod mai'r gwahaniaeth o'r cyhoeddiad gwreiddiol oedd hynny fodd bynnag, ac felly mai dim ond 拢1.5m oedd maint y cynnydd go iawn.

'Mwy diamwys'

Yn eu hadroddiad, fe ddywedodd y pwyllgor nad oedd y 拢62m "ychwanegol" yn cynrychioli gwahaniaeth rhwng cyllideb ysgolion Llywodraeth Cymru yn 2017-18, a'r gyllideb yn 2018-19.

Yn hytrach, roedd y ffigwr yn cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm gafodd ei gyhoeddi'n wreiddiol, a'r swm terfynol gafodd ei bennu.

"Rydyn ni'n bryderus yngl欧n 芒'r diffyg tryloywder yn ymwneud 芒'r gyllideb mae Llywodraeth Cymru wedi'i neilltuo o fewn y Cyllid Allanol Cyfun i amddiffyn cyllidebau ysgolion," meddai'r adroddiad.

"Er ein bod ni'n croesawu camau Llywodraeth Cymru i warchod cyllidebau ysgolion rhag beth fyddai wedi bod yn ostyngiad niweidiol ym maint yr arian ar gael i awdurdodau lleol ariannu ysgolion yn iawn, rydyn ni'n siomedig gyda'r ffordd y cafodd y newid i gyllid ysgolion ei gyflwyno yn y gyllideb hon."

Ychwanegodd y pwyllgor y dylai'r llywodraeth fod yn fwy "diamwys" am y newidiadau go iawn i gyllidebau ysgolion yn y cyhoeddiadau maen nhw'n ei wneud.