Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth Cymru'n croesawu dyfarniad isafbris alcohol
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu dyfarniad gan y Goruchaf Lys sydd yn caniat谩u cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol.
Roedd Senedd Yr Alban wedi pleidleisio pum mlynedd yn 么l o blaid cyflwyno deddfwriaeth o'r fath, ond fe wnaeth her gyfreithiol olygu oedi i'r broses.
Ddydd Mercher fe wrthododd y llys uchaf yn y DU her y Gymdeithas Wisgi Albanaidd, gan olygu y gall y ddeddf nawr gael ei chyflwyno.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething - sydd eisiau cyflwyno cyfyngiadau tebyg - ei fod "wrth ei fodd".
'Clir a diamheuaeth'
Ym mis Hydref fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun ar gyfer cyfraith newydd i ddynodi isafbris ar gyfer gwerthu alcohol yng Nghymru.
Gallai isafbris o 50c yr uned ar alcohol olygu y byddai can o seidr yn costio o leiaf 拢1, potel win yn costio o leiaf 拢4.69, a litr o fodca yn costio dros 拢20.
Yn 么l gweinidogion fe allai taclo goryfed olygu y bydd un bywyd yn cael ei achub yr wythnos.
Maen nhw hefyd wedi dweud y gallai olygu 1,400 yn llai o gleifion ysbyty bob blwyddyn.
Ond mae rhai gwleidyddion gan gynnwys Neil Hamilton o UKIP wedi dadlau na fyddai'r mesur yn lleihau goryfed, ac mai cosbi yfwyr cymedrol fyddai'r canlyniad.
Wrth ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys, dywedodd Mr Gething fod yr isafbris yn "ffordd gymesur o daclo'r niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol".
"Mae'r dyfarniad yn cadarnhau mai mater i'r sefydliadau datganoledig democrataidd yw hi i benderfynu ble ddylai'r cydbwysedd fod rhwng amddiffyn iechyd a materion masnach," meddai.
Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried unrhyw oblygiadau o'r dyfarniad ar gyfer eu mesur iechyd cyhoeddus nhw.
"Yn y cyfamser rydyn ni'n croesawu'r dyfarniad clir a diamheuaeth yma fod isafbris yn ffordd briodol a chymesur o daclo yfed niweidiol a pheryglus."