Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Comisiynydd Safonau 'i edrych ar honiadau aflonyddu'
Mae arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad wedi dweud y byddan nhw'n cyfeirio pob honiad o gamymddwyn i'r Comisiynydd Safonau yn y dyfodol.
Yn dilyn cyfarfod rhyngddyn nhw a'r Llywydd Elin Jones ddydd Mercher, maen nhw hefyd wedi dweud y byddan nhw'n "cryfhau eu gweithdrefnau" fel bod pobl yn teimlo'n "fwy hyderus" i adrodd am ddigwyddiadau.
Bydd y cod ymddygiad ar gyfer ACau hefyd yn berthnasol ar gyfer unrhyw un sydd yn gwneud cwyn, nid dim ond y rheiny sy'n gweithio yn y Cynulliad - a hynny ar sail cyfrinachedd.
Bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad hefyd yn datblygu polisi newydd fydd yn rhan o'r cod, ac yn adolygu'r cosbau os yw'r cod yn cael ei dorri.
'Amgylchedd ddiogel'
Yn dilyn y cyfarfod ddydd Mercher fe wnaeth yr arweinwyr ryddhau datganiad yn dweud ei fod yn "destun gofid mawr i ni y gallai ymddygiad amhriodol aelodau o'r sefydliad hwn fod wedi effeithio ar unigolion".
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn mynd i weithio gyda'n gilydd i egluro a chryfhau ein gweithdrefnau i sicrhau bod unigolion yn teimlo'n fwy hyderus i roi gwybod am honiadau o ymddygiad amhriodol, a bod yr honiadau hyn yn cael eu hymchwilio'n drylwyr ac yn deg - i bawb dan sylw."
Fel rhan o hynny maen nhw'n dweud y bydd Polisi Parch ar Urddas yn cael ei sefydlu ar y cyd rhwng Comisiwn y Cynulliad a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Bydd y drefn newydd yn golygu y bydd y Comisiynydd Safonau yn gyfrifol am edrych ar bob cwyn am ymddygiad amhriodol sy'n cael ei wneud yn erbyn Aelod Cynulliad.
Byddai'r holl staff sy'n gweithio yn y Cynulliad hefyd yn cael eu "gwarchod gan yr un disgwyliadau", yn ogystal 芒 bod yn "ddarostyngedig" iddyn nhw.
"Rydym i gyd yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb dros sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amgylchedd diogel i'r rhai sy'n gweithio yma, i'r rhai sy'n ymweld 芒'r yst芒d ac i unrhyw un sy'n ymwneud 芒'n Haelodau neu ein gweithwyr," meddai'r arweinwyr.
Cafodd y datganiad ei arwyddo gan y Llywydd Elin Jones, cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Jane Bryant, ac arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad - Carwyn Jones, Andrew RT Davies, Leanne Wood, Neil Hamilton a Kirsty Williams.
Proses gwyno
Cafodd y cyfarfod gwreiddiol i drafod aflonyddu rhywiol ei ohirio'r wythnos diwethaf yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog Llafur, Carl Sargeant.
Fe wnaeth Mr Sargeant ladd ei hun bedwar diwrnod ar 么l cael ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.
Ddydd Mawrth fe wnaeth Mr Jones ac arweinydd Plaid Cymru awgrymu y dylai Comisiynydd Safonau'r Cynulliad ymchwilio i honiadau o'r fath yn y dyfodol.
Yn 么l Ms Wood fe fyddai'r comisiynydd yn gallu cynnig modd annibynnol i ymchwilio i honiadau.
Dywedodd Mr Jones fod yna "fudd mewn ymchwilio, gyda'r Llywydd, i sut y gallai'r Comisiynydd Safonau newid r么l" er mwyn "creu proses gwynion sy'n cefnogi'r holl bleidiau".
Yn San Steffan mae arweinwyr y pleidiau wedi cytuno i gyflwyno proses gwyno newydd er mwyn caniat谩u i staff ymdrin 芒 honiadau o gamymddwyn yn y Senedd.
Daw hynny ar 么l cyfres o honiadau yn erbyn Aelodau Seneddol.