Ffasiwn cerdd dant

Maen nhw'n gynlluniau sydd wedi ysbrydoli nifer fawr o ferched Cymru dros y degawdau a nawr gallwch chi werthfawrogi rhai o ffasiynau blodeuog Laura Ashley yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.

Ers i Laura a Bernard Ashley sefydlu'r cwmni yn y Canolbarth ar ddechrau'r 70au mae'r dyluniadau lliwgar wedi dod yn gyfarwydd ar hyd a lled y byd nid yn unig ar ffurf ffrogiau ond hefyd ar ddodrefn a phapur wal.

Pan oedd y cwmni ar ei anterth byddai llwyfannau Cymru wedi bod yn llawn o gorau merched, cantorion ac adroddwyr yn gwisgo y dillad gafodd eu cynhyrchu yn ffatri'r cwmni yng Ngharno.

Tybed a fydd 'na ambell i enghraifft ar lwyfan yr W欧l Cerdd Dant yn Llandysul ddydd Sadwrn 11 Tachwedd?

Dyma i chi flas o'r arddangosfa yn Aberystwyth:

Disgrifiad o'r llun, Ydy rhai o'r rhain yn procio'r cof?
Disgrifiad o'r llun, N么l a ni i'r saithdegau!
Disgrifiad o'r llun, Laura Ashley: Y cynllunydd ifanc wrth ei gwaith
Disgrifiad o'r llun, Roedd 'na fwy na cynlluniau blodeuog i'w cael
Disgrifiad o'r llun, Oedd gennych chi ffrogiau tebyg i'r rhain?
Disgrifiad o'r llun, Barod am swper yn y Berni Inn!
Disgrifiad o'r llun, Dilyn y patrymau...

Oes gennych chi luniau ohonoch chi yn eich hoff ffrog Laura Ashley?

Cysylltwch gyda cymrufyw@bbc.co.uk